Ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000 brasgamodd Ffagl ymlaen. Mae swyddogion yr elusen yn 10 Stryd Popty yn darparu cysur, cydymdeimlad a chefnogaeth ymarferol i unigolion yng Ngheredigion ac arnynt afiechyd sydd yn eu cyfyngu neu yn angeuol. Ceisir datrys unrhyw gais anfeddygol rhesymol ar ran yr unigolyn a'r teulu wrth iddynt wynebu salwch difrifol.
Gymaint yw'r galw am y gwasanaeth fel yr agorir ail swyddfa yn y sir o ddechrau Mehefin ym Manchester House, Aberteifi, gan gynnig i drigolion de y sir yr un lefel o ofal ac ymrwymiad. Mae'r elusen yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr a thîm bychan o weithwyr proffesiynol o bob oed. Mae'r gwaith yn ddiddorol iawn ac yn rhoi cryn foddhad ac ymdeimlad o optimistiaeth i bawb, uwchlaw popeth arall, ymdeimlad o OBAITH. Mae'r sefydliad wedi torri tir newydd gyda'i syniadau a'r modd a ddefnyddir i drosglwyddo ei wasanaeth i'r gymuned. Mae'r 'caredigrwydd' ymarferol yma yn iaith ddealladwy i bawb - gobeithir y gellir lledaenu neges y gair yma trwy donnau'r awyr ar adain cân mewn cyngerdd arbennig iawn nos Sadwrn Medi'r 18fed. Yn garedig iawn, cytunodd Catrin Finch (Telynores Tywysog Cymru) fel Noddwr Ffagl Gobaith i berfformio yng Nghyngerdd Elusen Ffagl Gobaith. Bydd yr artistiaid eraill yn cynnwys Côrdydd o dan arweiniad Sioned James o Landysul - côr ifanc cymysg cyffrous o Gaerdydd, pencampwyr cystadleuaeth Corau Radio Cymru 2003 gyda llawer o'r aelodau o Geredigion, Rhys Taylor - clarinetydd talentog ifanc lleol, gyda Glan Davies yn arwain y noson. Noson i ddathlu talent arbennig ein bobl ifanc ac yn eu dwylo, ein GOBAITH am y dyfodol. Ceir rhagor o fanylion am y noson cyn bo hir ar y cyfryngau ac yn y papurau lleol. Am nawr, cofiwch roi y dyddiad yn eich dyddiadur, Nos Sadwrn Medi 18fed am 7.30 pm yn Neuadd Fawr Aberystwyth (am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ffagl Gobaith (01970 611957) neu thebeaconofhope@btconnect.com.
|