91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Dafydd Jones yn canu'r Cywydd Croeso Cyngerdd Cyhoeddi
Tachwedd 2006
Neli Jones sy'n adrodd o Seremoni Gyhoeddi yr Å´yl Gerdd Dant ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid
Cynhaliwyd Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro 2007 ym Mhafiliwn y Bont Nos Iau 19 o Hydref, gydag un ar ddeg o ysgolion cynradd dalgylch yr ŵyl, sef ardal y ddau bapur bro Y Barcud a Y Ddolen yn cymryd rhan yn hanner gyntaf y noson.

Cafwyd eitemau amrywiol o'r radd flaenaf gan bob un o'r ysgolion, gyda John Jones yn arwain y gweithgareddau. I ddiweddu'r rhan gyntaf, ymunodd yr ysgolion i gyd i ganu geiriau pwrpasol Menna Jones i groesawu'r ŵyl, gydag Ingrid Rose yn arwain a Meinir Jenkins yn cyfeilio.

Ar ôl egwyl fer, cafwyd datganiad cerdd dant o'r Cywydd Croeso, gwaith Raymond Osborne Jones a Thalwrn Ffair Rhos, gan Dafydd Jones, Ystrad Meurig a'r delynores Heledd Mitchell yn cyfeilio.

Llywydd y noson oedd y Cynghorydd Wil Hughes, Abertawe, un o fois Ffair Rhos a'r Bont nad sydd wedi anghofio'i wreiddiau, a chafwyd ganddo lawer o storïau diddorol yn ei anerchiad, a chyfraniad hael tuag at y gronfa. Roedd yn hyfryd cael cwmni ei chwaer Rosalind a'i gŵr hefyd yn bresennol, a chyflwynwyd basgedaid o flodau i Rosalind gan Cadi Jones, Tynfron, wedi iddi adrodd penillion pwrpasol yn croesawu Wil Hughes.

Lansiwyd Rhestr Testunau'r ŵyl ar y noson, a chyflwynwyd y copi cyntaf ohoni i gadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Arfon Gwilym, gan gadeirydd Pwyllgor Gwaith gŵyl Ystrad Fflur, Neli Jones.

I gloi'r noson, cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tregaron, gyda'i teyrnged i'r pum prifardd lleol, y prifeirdd Dafydd Jones, D Lloyd Jenkins, W J Gruffydd, J Roderick Rees a Gwenallt Llwyd Ifan, y cyfan wedi ei wau yn gelfydd gyda darlleniadau, cerddoriaeth ag ymgom.

Diolch o galon i bawb a gefnogodd y noson, ac a gyfrannod tuag at ei llwyddiant mewn unrhyw fodd.

  • Cliciwch yma i fynd i wefan Gŵyl Gerdd Dant Rhosllannerchrugog a'r fro 2006

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý