Agorwyd y ganolfan newydd ar y 29ain o Hydref, gyda chymorth ariannol derbyniol o Ewrop, ynghyd ag arian cyfatebol oddi wrth y Gronfa Adfywio lleol a chronfa Ardollt Acregau Cynhaliadwy Cymru, arian a godwyd gan y gymdeithas ei hun, a rhoddion ariannol gan unigolion.
Mae'r adeilad hardd cofrestredig gradd 2 wedi cael ei adnewyddu'n chwaethus. Mae yna bedair ystafell ar gael i'r cyhoedd, ac mae ystafelloedd wrth gefn yr adeilad lle lleolir y gegin a'r toiledau, gyda chyfleusterau addas i'r anabl.
Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad hanesyddol Ysgol Ramadeg Edward Richard ger Eglwys Sant loan. Cychwynwyd ysgol gan Edward Richard yn 1734, a gynhaliwyd yn yr eglwys hyd nes i adeilad pwrpasol gael ei godi yn 1812/15. Roedd yn ganolfan addysgol bwysig, yn arbenigo mewn hyfforddi gwyr ieuanc i'r offeriadaeth. Bu i'r ysgol gau yn 1972, ac fe ddefnyddiwyd yr adeilad fel neuadd yr eglwys nes 1992.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol yn y prynhawn, pryd y cafwyd eitem gan ddisgyblion Ysgol Swyddffynnon, a cherddoriaeth cefndir gan y grwp Triban, cafwyd cyngerdd o'r safon uchaf yn yr hwyr, gyda Lyn Ebenezer yn arwain a Neli Jones yn cyfeilio. Yr artistiaid oedd Peter Horton, Dafydd Jones, Christine Rigby, Bethan Pearce, Shelley Musker-Turner, Aimee Edwards, Rachel Jones a'r grŵp Ffidl Ffadl.
Paratowyd lluniaeth gan Geraint Thomas, ac addurnwyd y neuadd gan Annwen Davies, Jean Mountford ac Ann Owen. Gwnaed y gagen gan Mrs Ann Arch.
Dymuna pwyllgor y ganolfan ddiolch i bawb a sicrhaodd lwyddiant i'r diwrnod.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Ganolfan a hanes yr hen ysgol ramadeg.
|