Cafwyd tri diwrnod (lawn dop o weithgareddau ac fe ddaeth cannoedd o blant ysgolion Ceredigion yno yn eu gwisgoedd lliwgar.
Roedd y Pentre yn llawn o sipsiwn, môr ladron, smyglwyr, lladron pen ffordd ac ati.
Yno hefyd roedd Twm Sion Cati yn gwneud ei gastiau.
Fe alwodd Barti Ddu heibio ac hefyd fe welwyd Sion Cwilt yn crwydo o amgylch y lle!
Fe fu darllen cerddi a storiau, gweithdai drama a chanu nes bod y tô yn codi yn Neuadd Fach y Pentre!
Cafwyd sel bendith parod Emyr Llew a'r teulu i'r dathliadau ac yn wir fe alwodd Delyth Hughes, Bryn Hope heibio i ymuno yn y sbri.
Mae Awdurdod Addysg Ceredigion wedi noddi'r achlysur yma ers tair blynedd erbyn hyn ac mae yn mynd o nerth i nerth.
Eleni fe fu Cwmni Tinopoplis yn ffilmio a braf oedd gweld y plant ar Wedi Tri ac Wedi Saith. Fe gododd John Meredith yn gynnar un bore ac fe fu yn cyfweld ar gyfer Radio Cymru a ffilmio ar gyfer Newyddion y 91Èȱ¬ ar gyfer S4C.
|