Wrth godi am 6 o'r gloch ar fore arbennig o haf ar Fai 30ain roedd gennyf deimlad yn fy mol y byddai Dydd Gwyl Y Banc Sulgwyn 2005 yn ddiwrnod i'r brenin. Ni chefais fy siomi oherwydd cefais y cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad pwysig iawn yng ngalendr Curiad Caron a Thregaron a'r cylch. O agor drws y ffrynt, deuai seiniau paratoadau'r dydd i'm clustiau gyda nifer o wirfoddolwyr wedi ymgasglu i gynllunio a chreu sylfeini'r dydd. Roedd gwaith i'w wneud hyd yn oed cyn i'r prif geiliog glochdar ond roedd trefn yno, trefn a oedd yn deillio o gael yr un pobl yn barod i dorchu llewys yn flynyddol. Ac wrth gwrs roedd hi'n dywydd braf, arbennig o braf. Roedd holl drefniadau'r dydd wedi'i gwneud erbyn naw o'r gloch ac felly dim ond aros oedd raid, i'r stondinwyr a'r arddangosfeydd oedd eu hangen i ddod a chig a chnawd i'r sgerbwd oedd wedi'i sefydlu yn gynnar iawn ar doriad y wawr. Wrth i Lywydd anrhydeddus y dydd, Marwin Evans, gyhoeddu agoriad swyddogol Ffair Garon am 11 o'r gloch, braf oedd gweld gymaint o bobl yn ymgasglu yn ymddiddori ac yn tyrru o un man i'r llall. Cyfle i weld rhywbeth newydd cyfle i hel atgofion o'r hen ffordd o fyw ac yn bennaf oll cyfle i gymdeithasu. Eleni eto roedd digon o ddigwyddiadau i'r teulu cyfan, rhai yn ddigwyddiadau cyffredin ac eraill yn arbennigol gan bwysleisio ar hen draddodiadau ein hetifeddiaeth. Mae dim ond ysgrifennu am Ffair Garon yn dod a dŵr i'm dannedd gan i mi fwynhau'r diwrnod tu hwnt ac yn ôl y son i nifer ohonoch chwi gael yr un profiad a minnau. Wrth gwrs ni all digwyddiad tebyg i Ffair Garon 2005 fodoli heb yr ymdrech a gorchwyl a roddir i fewn i wneud y trefniadau paratoadol hynny sydd ei hangen i sicrhau llwyddiant y dydd i chwi y gymuned leol, ac wrth gwrs yr ymwelwyr hynny sydd yn dod. Mae'r ymwelwyr, yn sgil y digwyddiadau yma, yn hybu'r economi leol a chefnogi'r broses o adfywio cefn gwlad Ceredigion. Diolch o galon felly i Sian Evans, Amy Jones, Parch. Roger Humphreys, Aled Evans a'r llu o wirfoddolwyr hynny a wnaeth y diwrnod lwyddiant ysgubol. Diolch hefyd i Gynllun Treftadaeth Tregaron am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad. Ac yn olaf diolch i chi bobl ardal Tregaron am gefnogi'r digwyddiad. Os am sgwrs am weithgareddau Curiad Caron, cysylltwch â mi'n syth ar 01974 298146 neu ebostiwch info@curiadcaron.org Erthygl gan Dafydd Wyn Morgan (Rheolwr Datblygu - Curiad Caron)
|