91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Margiad Dobson Cadair i Margiad
Mawrth 2007
Er nad yw ond 11 oed, dyfarnwyd Cadair adran llên dan 25 Eisteddfod Llanllyfni i Margiad Elen Dobson, Pantglas.
Rhoi cynnig ar y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 15 oed wnaeth Margiad, dan arweiniad Miss Eleri Wyn Owen, ei hathrawes Gymraeg.

Doedd hi fawr feddwl wrth ysgrifennu'r stori cyn y Nadolig diwethaf y byddai Twm Morys, y beirniad, o'r farn mai ei gwaith hi oedd yr ymgais orau ymhlith holl gynnyrch y cystadlaethau llenyddol i rai dan 25 oed.

'Tro ar fyd' oedd testun y gystadleuaeth ac ymweliad a mynwent, o bob dim, a esgorodd ar y stori. Roedd Margiad wedi bod yn rhoi blodau ar fedd ei hen dlaid a nain ym mynwent Tai Duon pan ddechreuodd holi Bethan, ei mam, ynglŷn â cherrig beddau eraill o'i chwmpas.

Fe gyrhaeddodd garreg fedd Gwen Williams, Nant Cwmbrân a gofynnodd Margiad pwy oedd hi.

Eglurodd Bethan mai hen ferch oedd Gwen yn byw gyda'i brawd ar lethrau'r Graig Goch, ac adroddodd rai hanesion amdani. Soniodd fel yr arferai nol dŵr o'r pistyll yn foreol ac fel yr etifeddodd deledu gan berthynas o Loegr, er nad oedd ganddi glem sut i'w weithio.

Roedd dydd Sadwrn 3 Mawrth yn ddiwrnod eithriadol o brysur i Margiad gan ei bod hefyd yn ddiwrnod eisteddfodau cylch Yr Urdd lle roedd yn cystadlu ar yr unawd, yr unawd cerdd dant a'r ddeuawd.

  • Stori arall gan Margiad o Sgwad Sgwennu Gwynedd

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý