91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Lois Angharad Williams Her Arall i Lois
Mai 2004
Pa effaith, meddech chwi, a gaiff globaleiddio ar gyfandir Ewrop? Siarad ar y pwnc hwnnw fydd yr her a wyneba merch ifanc o Chwilog yn Johannesburg y mis nesaf.
Bydd Lois Angharad Williams yn y ddinas honno, yn un o ddwsin o bobl ifanc o wledydd Prydain, mewn cynhadledd dan nawdd y Cyngor Cenhadaeth Byd-eang, y gwelir talfyrru ei enw yn ami i CWM - Council for World Mission.

Daw i'r gynhadledd bobl o wledydd lawer ac o bob cyfandir, a bydd yno banel o siaradwyr yn cynrychioli gwahanol ranbartbau o'r byd. Y thema eleni yw Globaleiddiaeth, a gofynnwyd i Lois roi anerchiad ar y pwnc i gynrychioli rhanbarth Ewrop. Beth, er enghraifft, yw'r ymateb - Cristnogol i'r globaleiddio - neu beth a ddylai fod?

Bydd Lois yn treulio deng niwrnod yn Johannesburg gan letya y rhan fwyaf o'r amser yn y ganolfan lle cynhelir y gynhadledd ond caiff hefyd aros noson neu ddwy gyda theulu yn y dinas a chael cyfle i ymweld ag eglwysi lleol.

Bydd y daith i Dde Affrica yn fyrrach o ran pellter ac o ran amser na'r un y cychwynnodd Lois arni y llynedd. Ar ôl graddio mewn Cymdeithaseg a Seicoleg yng Ngholeg Crist, Caergrawnt yr haf diwethaf aeth i'r Wladfa ym mis Hydref i ddysgu Cymraeg i bobl yn Esquel. Bu yno am saith mis hyd 7 Mai eleni.

Pan ddychwel o Johannesburg ganol y mis nesaf bydd yn chwilio am waith, a hwnnw yn ymwneud, os yn bosibl, a rhyw elusen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý