91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Alwyn Elis (Gwasg Gwynedd), W.S. a Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch) 'Lansiad Triplex'
Tachwedd 2005
Go brin fod neb ohonom yn cofio i hyn ddigwydd o'r blaen sef i awdur weld lansio tri o'i lyfrau 'run noson.
'Lansiad triplex', chwedl Stewart Jones wrth lond neuadd o edmygwyr Wil Sam a ddaeth i Lanystumdwy i ddathlu cyhoeddi 'Newyddion Ffoltia Mawr', 'Mân Bethau Hwylus' a 'Rhigymau Wil Sam'.

Bu'n noson afieithus o ddarllen ac actio, canu a 'sbonio - a chloi'n annisgwyl mewn seremoni o goroni/cadeirio'r awdur â thorch o nionod; llysiau nad yw ef, a dweud y lleiaf, yn or-hoff o'u blas na'u harogl. Buan iawn yr ysgydwodd W.S. y plisgod oddi ar ei arffed a gwahodd pawb i ymuno â mudiad yr CDN - Cymdeithas Difa Nionod.

Wil Sam a'r nionodGwasg Carreg Gwalch a Gwasg Gwynedd, cyhoeddwyr y cyfrolau, a drefnodd y noson. Yr hyn a wneid, meddai Myrddin ap Dafydd oedd dathlu sgwennu cwbl, cwbl arbennig. Bob tro y clywid y ddau air 'Wil Sam' deuai gwên i'w canlyn; bob tro y gwelid hwy ar glawr deuai llam i'r galon. 'Roedd cyhoeddi tair cyfrol mor wahanol i'w gilydd, yn 85 oed, yn dweud rhywbeth arbennig iawn am y dyn.

Pwysleisiwyd gwahanolrwydd W.S. ymhellach mewn cyfraniadau byrion difyr gan Alwyn Elis, Ioan Roberts a Twm Morys. Darllenwyd o ddwy gyfrol gan Stewart Jones, cyflwynwyd deialogau gan bedwar aelod o gwmni drama Llwyndyrys - Gwilym Griffith, Nia Williams, Kit Ellis a Dic Parry - a chafwyd detholiad o'r ddrama 'Bobi a Sami' gan ddau lanc o Fôn, Iddon Alaw o Lanfugail ac Arwyn Jones o Lansadwrn, dau o sêr y gyfres 'Rownd a Rownd'.

Ian Parry, tafarnwr y Plu, a William Hefin, cyd-aelod â W.S. yn nosbarth/seiat barddas Twm Morys yn Llanystumdwy a gafodd y fraint o'i hebrwng i'w goroni. Canwyd cân y coroni, gwaith Myrddin ap Dafydd, gan Geraint Lovgreen ar alaw 'Mistar Duw'.

Dyma hi:

Mi glywais lawer sôn am Wil Sam Jôns:
Rho'th ddarlith Babell Lên ar Doblarôns,
Mae'n ddyn y ddrama gegin,
Mae'n gneud i'r sycha chwerthin,
Mae'n hoff o adar drycin - Wil Sam Jôns.

Wil Sam Jôns, Wil Sam Jôns,
Gwisgo'i iaith fel gwisgo trôns,
Wil Sam Jôns: Mae dy glust di'n fain o hyd;
Wil Sam Jôns, Wil Sam Jôns,
Rwyt ti'n clywed, Wil Sam Jôns,
Geiriau'n cerdded i dy boced, Wil Sam Jôns.

Un hoff o foto-beics 'di Wil Sam Jôns
A gwlad y Ginis du a'r lepracôns,
Un hoff o'r snygbar cynnes
A drama fach ddirodres
A hoff iawn o'r frenhines - Wil Sam Jôns.

Mae Rhywbeth Bach yn poeni Wil Sam Jôns:
Mae'r Dalar Deg yn llawn o Alcapôns,
Dim lle i Bob na Sami,
Nid oes un Ddinas inni,
Dim ond Tro Crwn amdani - Wil Sam Jôns.

Mae ambell hen gymêr gan Wil Sam Jôns
Di dawnsio hyd y llwyfan yn ei drôns
A wir mae'n achos dathlu
Ei fod o'n dal i sgwennu
A diolch mae dy Gymru - Wil Sam Jôns.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý