91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Gwilym Griffith Gwobrwyo'r Gwladwr Hynaws
Ebrill 2005
I Gwilym Griffith, Llwydyrus - Gwilym Plas i bawb o'i gydnabod - un o gymwynaswyr diwylliannol pennaf y bröydd hyn y cyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams yn y Brifwyl yn y Faenol eleni.
Fe'i dyfarnwyd iddo mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 9 Mai.

Rhoddir y Fedal bob blwyddyn er 1976 i gydnabod ac anrhydeddu gwasanaeth gwirfoddol gan unigolyn i bobl ieuanc i hybu'r iaith ac amcanion yr Eisteddfod. Yr oedd saith o enwebiadau am y Fedal eleni.

Ym Mhlas Newydd, Llwyndyrys, y ganwyd ac y magwyd Gwilym, sy'n 67 oed. Daeth cymal o enw ei gartref yn gymaint cyfenw iddo ef a'i deulu â'r Griffith y'i bedyddiwyd ag ef. Gwilym Plas, Jean Plas, Dyfed Plas, Nia Plas a Medwen Plas. Dyna nhw - ac mae'r un peth yn wir eto am blant Dyfed sy'n ffermio ym Mhlas Newydd heddiw ar ôl i'w rieni ymfudo i Blas Isa' ac i Gwilym rhyw chwarter ymddeol. Mae'n dal i odro ac i werthu wyau.

Yn arweinydd Cymanfaoedd ac eisteddfodau mae'n amlwg i bawb nad baich i Gwilym ond pleser yw'r holl draul ar ei oriau hamdden.

I ddarllenwyr y Ffynnon prin fod angen rhestru cymwynasau Gwilym i'w filltir sgwar. Y mae'n flaenor ac arweinydd y gân yn ei gapel. Yn actor a chynhyrchydd a chyfarwyddwr bu'n ymwneud â chwmni drama Llwyndyrys o'i ddechreuad dros ddeugain mlynedd yn ôl. Yn y capel, mewn cynyrchiadau Nadolig ac ati, yn ŵr ieuanc ar ôl gadael Coleg Glynllifon, y dechreuodd ymddiddori mewn drama ynghyd â dysgu plant Llwyndyrys i ganu ac adrodd. Bellach daeth galw am hyfforddi'r pedair wyres a'r pum ŵyr yn ogystal heb sôn am bartïon i'r Gylchwyl.

Mae'n hanu o deuluoedd cerddorol o'r ddeutu a bu ganddo yntau gôr llwyddiannus iawn ar un cyfnod. Ond ym myd adrodd y gwnaeth ef a Jean a'r genod eu marc yn genedlaethol. Mae'r pedwar ohonynt wedi dod i'r brig un ai yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod yr Urdd.

Cipio gwobrau cenedlaethol am wneud silwair a wna Dyfed. Mae ganddo lais bâs da ond ni fentrodd gystadlu ymhellach na llwyfan y Gylchwyl.

Llongyfarchiadau mawr i ŵr y Plas. Os bu rhywun erioed yn haeddu'r anrhydedd y mae'r gwladwr hynaws wyneb-lawen hwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý