91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Myrddin (y cyntaf ar y chwith) gyda plant amddifad yn Tapachula Swydd yn Mexico
Gorffennaf 2006
Os digwydd ichi fynd i gaethgyfle ym Mexico rhywbryd, mae gobaith bellach y cewch gymorth un o hogiau Eifionydd i ddatrys eich problemau.

Y mae Owain Myrddin Edwards, 23 oed, TÅ· Mawr, Treflys mewn swydd yn y Llysgenhadaeth yn y brifddinas, Dinas Mexico.

Y Llysgennad yno yw Giles Paxman, brawd Jeremy Paxman, holwr craff 'Newsnight' a chyflwynydd 'University Challenge'.

Gwaith pennaf Myrddin yn ei swydd newydd yw cyfarfod gwladweinwyr a phwysigion byd busnes 'yn y maes awyr, a'u tywys a chyd-hedfan â hwy pan fo angen, i wahanol lefydd led-led Mexico.

Aeth Myrddin i Mexico yn wreiddiol yn athro Saesneg mewn coleg yn nhref Tapachula yn neheudir y wlad, nid nepell o'r ffin â Gwatamala.

Ei fwriad oedd aros am flwyddyn ond pan welodd hysbyseb am y swydd yn y Llysgenhadaeth gwnaeth gais amdani.

Cafodd air i fynd am gyfweliad i Ddinas Mexico, ond tynnodd ef sylw'r awdurdodau mor hirfaith y siwrnai o Tapachula i'r brifddinas. Y canlyniad fu cael cyfweliad ar y ffôn - a sicrhau'r swydd hefyd.

I weithio ym Mexico y mae Myrddin, wrth gwrs, yn rhugl ei Sbaeneg. - a'i Ffrangeg hefyd ran hynny. Graddiodd yn y ddwy iaith yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Yn ystod ei gwrs o bedair blynedd treuliodd hanner blwyddyn yn Strasbourg yn ymchwilydd i Eurig Wyn pan oedd hwnnw'n Aelod Seneddol Ewropeaidd, a hanner blwyddyn arall yn Sbaen.

Ei fwriad yn awr yw eistedd arholiadau i'w gymhwyso ei hun yn Ddiplomat. Caiff wedyn deithio i wahanol lysgenadlaethau led-led y byd.

Mae'n dod i Lundain p'run bynnag ym mis Medi ac yn gobeithio y bydd cyfle i bicio adref i Dreflys i weld ei rieni, Dorothy a Meirion Edwards a gweddill y teulu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý