Dechreuodd Meic ymddiddori mewn hen glociau ym 1970 pan brynodd gloc wyth niwrnod am £10 mewn ocsiwn fferm ym Mwlchderwin. Roedd yn methu'n lân â'i gael i fynd, a phenderfynodd y byddai'n rhaid cael arbenigwr i edrych arno. Dyma ddechrau cyfeillgarwch hir â Mr John Williams, Y Ffôr, a gytunodd i ddysgu Meic sut i drin a thrafod clociau. Bu'n mynd ato am bum mlynedd a hanner, a gofalodd John Williams ei fod yn dysgu pob agwedd ar y grefft, gan gynnwys llunio rhannau newydd. Roedd rhai agweddau ar y gwaith yn anodd iawn, a byddai'n rhaid gwneud cyfrifiadau manwl gan nad yw pob olwyn yn troi ar yr un cyflymder. Bellach, mae dyfeisiau electronig i helpu'r trwsiwr clociau. Mae Meic yn dal i berffeithio'i grefft, ac yn mynychu cyrsiau Sefydliad Horolegol Prydain, ac mae wedi cael ei dderbyn yn aelod cyswllt o'r gymdeithas.
Galw mawr am ei wasanaeth
Mae galw am ei wasanaeth o bell ac agos, ac mae ganddo gwsmeriaid mewn mannau fel Aberdaron, Llanfaethlu ac Ysbyty Ifan. Mae nifer o bobl wedi ymweld â Meic yn ei weithdy. Bu Dei Thomas yn ei gyfweld ar gyfer y rhaglen Ar y Tir, a bu ar raglen fore Sadwrn Gerallt Pennant, sef Galwad Cynnar. Wrth ei gyfweld, gofynnodd Gerallt iddo p'run oedd y cloc mwyaf iddo ei drwsio. Yr ateb oedd cloc y twr yn Broom Hall, Chwilog. Roedd y pendil dros wyth troedfedd o hyd, a'r pwysau dros gan pwys yr un. Byddai angen dyn cryf iawn i'w weindio i ben y twr bob wythnos. Gellid ei glywed yn taro cyn belled â Phencaenewydd.
Roedd y cloc hynaf iddo ei drwsio, a oedd yn dod o Nefyn, yn dyddio o 1640, ac yn ei drydydd cas.
Bydd Meic hefyd yn trwsio nifer o glociau capel, a dywedodd fel y bu iddo gyfarfod â blaenor o Flaenau Ffestiniog yn y mart yn Y Gaerwen un tro, a ofynnodd iddo a fyddai'n fodlon trwsio cloc y capel iddo. Cytunwyd y byddai'n dod â'r cloc i Meic yn Y Gaerwen yr wythnos ganlynol. Yn anffodus, cafodd clociau eu dwyn o chwe chapel yn yr ardal yr wythnos honno.
Mae Meic wedi mynd yn brysurach a phrysurach dros y blynyddoedd ac mae'r clociau'n mynd â llawer iawn o'i amser erbyn hyn. Mae nifer y cwsmeriaid wedi cynyddu, yn enwedig o ddechrau nawdegau'r ugeinfed ganrif ymlaen, ac mae yntau'n ymddiddori fwyfwy yn y grefft. Mae nifer helaeth o'r clociau urddasol hyn wedi eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, ac yn rhan o'n treftadaeth, a theimla Meic ei fod yn chwarae rhan fechan yn y gwaith o'u diogelu at y dyfodol.
Bydd pob cloc sy'n dod i'r gweithdy yn cael ei drwsio a'i lanhau'n drylwyr, a bydd y gwaith yn cael ei warantu am bum mlynedd. Ar derfyn y cyfnod hwn bydd y cloc yn dychwelyd i Cwm am wasanaeth. Ond, er cymaint y mae Meic yn ymddiddori yn y gwaith, bydd angen seibiant ambell dro o berfeddion cymhleth y cloc, a phryd hynny does dim yn well ganddo na mynd i dawelwch y mynydd uwchben Cwm i fwynhau'r olygfa a'r awyr iach.
Cafwyd hyd i'r penillion canlynol sydd ym meddiant Meic y tu mewn i ddrws cloc a ddaeth yn wreiddiol o Lyn. Yr awdur yw J.T. Williams, Pistyll, tad Tom Nefyn. Roedd John Thomas Williams yn fardd gwlad adnabyddus yn Llyn. Atgynhyrchir y gerdd yma yn union fel ag y mae yn y Ilawysgrif.
Dyma rhan o'r gerdd ..
Myfyrion wrth Windio yr Hen Gloc
Bob nos Sadwrn 'rwyf yn windio
Yr hen gloc yn olaf ddim,
Wrth i'm wneud yr wyf yn cofio
Fel mae foes yn cilio'n chwim.
Tra yn troi dy bwysa'i fyny,
Deffry atgo dyddiau fu.
Trof i dremio i'r dyfodol
Ofnaf ei gymylau du.
Cofio'r dwylo fu'n troi'r goriad,
Cyn fy ngeni i i'r byd.
Wrth dy windio "rhen wyth niwrnod"
Rhifais tithau'n dyddiau gyd.
Tician roeddit nos ym ganwyd,
Ticiaist gyfyng awr fy mam,
Ticiaist flwyddyn ei thrafferthion
Ticiaist iddi ei holaf gam.
Llaw fy nhad fu yn dy windio,
Tros chwe deg o flwyddi hir.
Mesul tic hwy aethant ymaith,
Ticiaist ef i'w gartref hir.
Hyd dy lein sydd wythnos inion,
Sicrwydd hyn sydd gennyt ti.
Hyn wy'n ofyn wrth dy windio -
Faint fydd hyd fy llinyn i?
J. T. Williams, Pistyll (Tad Tom Nefyn)