Ymhlith yr enwau hyna' ym mhob gwlad, mae enwau afonydd. Yr un yn y bôn ydi enw'r wlad 'Punj-ab' â'r geiriau Cymraeg 'Pum Afon'. Yr un ydi 'Do Ab' yn Affganistan â 'Dwy Afon'. A dyna chi afon 'Avon' yn Lloegr. Criw o ryw Saeson newydd yn cyfarfod ffarmwr bach o Frython ar lan afon yng Ngwlad yr Ha'. Y mwya' ohonyn nhw'n pwyntio at y dwr: "What's it called? Beckyn Galoo?'" A'r Brython yn tynnu ei gap cyn ateb: "'Afon' dan ni'n ei alw o, eich Mawrhydi." A'r Sais yn dweud yn jarfflyd wrth bawb wedyn: "It's called the River Avon." Mi ddigwyddodd yr un peth yn union pan aeth y Sbaenwr i Dde America, ond stori arall ydi honno. Hen iawn hefyd, hyn na Iesu Grist, ydi enwau 'Dwyfor' a 'Dwyfach' (neu 'Dwyfech'), sef 'Dwy fawr' a 'Dwy fechan'. Mi welwch chi'r un elfen yn yr enw 'Dyfrdwy', a'r geiriau 'meudwy' a 'dwyfol'. Yr hen air dwyw sydd yma, sef y ffurf hyna' ar ein gair ni, 'Duw'. Un 'Duw' sy gynnon ni, Eglwyswyr, Annibynwyr ac Anwybyddwyr. Ond roedd pob llwyn a mynydd a dwr ym myd y Brython yn gartre' i ryw fymryn o dduw neu dduwies. Roedd gan bob llwyth rhyw dduw bach o anifail neu dderyn neu goeden. Dyna pam, mae'n siwr, mae cymaint o afonydd Cymru yn dwyn enwau felly, fel 'Twrch' ym Meirionnydd, a 'Brân yng Ngheredigion, a 'Daron (dar = derwen) yn Llyn. Afonydd bach sanctaidd yr enwadau' paganaidd lleol oedden nhw. Rhwng y ddwy afon, 'Dwy fawr' a 'Dwy fach', roedd duwies Eifionydd. A Rhos-lan felly ydi paradwys! Ystyr 'Llanystumdwy' ydi y 'llan wrth y tro yn afon Dwy'. Ystyr 'Ystum Cegid' ('Ystum Tegid' ar lafar gan rai) ydi y tro yn yr afon lle mae'r Tegid (sef yr hemlock) yn dew'. Yn ardal Dolwyddelan, mae afon Stumiau, sy'n disgyn o Foel Siabod yn drofeydd i gyd. 'Afon Erch' wedyn, sef y ffin rhwng Eifionydd a Llyn ac Arfon. Yn y farddoniaeth hyna' yn Gymraeg (canu Aneurin o Fanaw Gododdin y tu draw i Fur Hadrian), mae sôn am wron o'r enw Marchlew yn lluchio gwaywffyn oddi ar geffyl main, erch, mygedorth', sef ceffyl main, brith, yn daith i gyd. Ac ym Mhedair Cainc y Mabinogi, daw Arawn, brenin mawr Annwn, ar gefn march erchlas mawr', sef un mawr brithlas. 'Afon dywyll' neu afon 'frith' ydi afon Erch. Y Twrch
|