91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Manon Fôn Evans Cap i Gymru
Mehefin 2006
Mae Manon Fôn Evans, Llystyn Isaf, Bryncir eisoes wedi cynrychioli ei gwlad ar y cae pêl droed pan oedd yn aelod o sgwad merched dan 15 Cymru.

Ond ar yr achlysur hwnnw ni roddwyd 'cap' i'r chwaraewyr i nodi eu camp.

Bellach mae Manon wedi derbyn ei chap swyddogol cyntaf, a hynny yn Yr Alban ar 20 Mai, fel aelod o dîm merched dan 17 Cymru.

Wedi teithio i faes awyr Birmingham gyda dwy ferch o Bwllheli a merch arall o Ddolgellau, hedfanodd Manon a'i chydchwaraewyr mewn awyren i Gaeredin, cyn teithio mewn bws moethus, gyda seddau lledr a theledu, i Perth.

Cynhaliwyd y gêm ym Mharc McDiarmid - cartref tîm pêl droed St Johnstone, ac er mai ar yr asgell dde y mae Manon yn chwarae fel arfer, roedd yn safle'r blaenwr y diwrnod hwnnw.

Y sgôr terfynol oedd Yr Alban 2 Cymru 1, ond er bod colli bob amser yn siom, codwyd calon Manon wrth iddi dderbyn y cap melfared coch ar ddiwedd y gêm.

Fel petai chwarae dros ei gwlad ar ddydd Sadwrn ddim yn ddigon i ferch bymtheg oed, hedfanodd Manon, a'r tair merch arall o ogledd orllewin Cymru, yn ôl y noson honno, fel bônt yn gallu chwarae i dim Pwllheli y dydd Sul canlynol.

Bae Cinmel oedd eu gwrthwynebwyr y diwrnod hwnnw, a thîm Pwllheli a orfu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý