91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Elizabeth George (trysorydd y Cyfeillion), Ffion Hague, a Philip George (llywydd y Cyfeillion) Denu torf
Medi 2008
Heidiodd cynulleidfa o bell ac agos i Lanystumdwy nos Wener 12 Medi i wrando ar Ffion Hague yn sgwrsio am ei llyfr swmpus - 'The Pain and the Privilege: The Women in Lloyd George's Life',

Trefnwyd y ddarlith gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George - cymdeithas sy'n trefnu darlithoedd yn Llanystumdwy.

Yn yr Amgueddfa y byddant yn cyfarfod fel arfer, ond gan eu bod yn amau y byddai ffigwr cenedlaethol fel Ffion Hague, sy'n hanu o Gaerdydd, yn denu cynulleidfa ehangach, penderfynwyd cynnal cyfarfod cynta'r tymor yn Neuadd y Pentref.

Bu'r ffôn yn wynias yn ystod y pythefnos yn arwain at y ddarlith, felly aethpwyd ati i ail-leoli am yr eildro - y tro hwn i Gapel Moreia.

A'r capel dan ei sang, croesawyd y wraig wadd gan Emrys Williams, Cadeirydd y Cyfeillion, a thraddododd Ffion Hague ddarlith hynod hwyliog a difyr am y merched fu'n ddylanwad ar fywyd y cyn-Brif Weinidog: Betsy, ei fam; Margaret Owen, ei wraig; Frances Stephenson, ei feistres; a Mair, Olwen a Megan, ei ferched.

Dyfyniad gan Ann Parry, ei howsgipar, a fenthycwyd yn deitl i'r llyfr.

Oedd, roedd cynnal perthynas agos a Lloyd George yn "boen ac yn fraint": yn sgil ei enwogrwydd, deuai statws a moethusrwydd - ond am bris, o gofio ei enw drwg fel arch-ferchetwr.

Rhesymau personol a ysgogodd Ffion i fynd i'r afael a phwnc y llyfr.

Fel Margaret, mae hi'n Gymraes Gymraeg sy'n briod a gwleidydd (William Hague, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr); ac fel Frances, cafodd gipolwg breintiedig tu ôl i'r llenni gwleidyddol, yn rhinwedd ei swydd yn Ysgrifennydd Personol i wleidydd amlwg.

Treuliodd dair blynedd yn ymchwilio ac ysgrifennu'r llyfr; chwe mis o'r cyfnod hwnnw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn pori trwy fynyddoedd o lythyrau personol o eiddo Lloyd George, Margaret a Frances. Yn oes y ffôn, yr e-bost a'r neges destun, mae'n debyg na fydd yr un dystiolaeth ar gael i awduron y dyfodol.

Mae'n anodd i ni, sy'n byw yng nghyfnod datguddiadol papurau'r gwter, ddirnad sut ar wyneb daear y llwyddodd Lloyd George i gynnal perthynas odinebus a Frances (ymysg eraill) am gyfnod o 30 mlynedd, heb gael ei ddarnio'n gyhoeddus a'i erlid o'i swydd.

Ond, dyna gonfensiwn y dydd - rhoddodd barwniaid y wasg rwydd hynt i ddynion o statws ymddwyn fel hyn, ar yr amod eu bod yn cadw draw o'r llysoedd ysgariad.

Rhwng cloriau'r llyfr, hefyd, cawn gipolwg ar fywyd yn Llanystumdwy gan mlynedd a mwy yn ôl; down i ddeall maint aberth y teulu ôll wrth feithrin gyrfa Lloyd George, a'i gynnal yn Stryd Downing; a chawn gyfle i amgyffred holl ddoniau a dyfeisgarwch y 'Dewin' ei hun.

Diolchwyd i Ffion Hague gan Philip George (Wŷr i William, brawd Lloyd George), a pharatowyd lluniaeth ysgafn, yn ogystal a chyfle i'r awdures lofnodi copïau o'r llyfr, yn y Neuadd ar ddiwedd y noson

. Os oes awydd stori ddifyr a gafaelgar arnoch, mynnwch gopi o'r llyfr - mae pob un o'r 553 tudalen yn werth ei ddarllen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý