91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Ioan Hughes Wynebu'r Her
Rhagfyr 2004
Am yr eildro yn hanes y papur, penodwyd gŵr o Eifionydd yn Olygydd Y Cymro.
Cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf mai'r golygydd newydd yw Ioan Hughes, 50 oed, o Bencaenewydd sydd â chanddo wyth mlynedd ar hugain o brofiad mewn newyddiadura.

Y gŵr arall o Eifionydd, wrth gwrs - ac o Bencaenewydd ac Ysgol Llangybi hefyd - oedd John Roberts Williams a fu'n Olygydd y Cymro o 1946 i 1962.

Magwyd loan ar fferm Brychyni, yr ieuengaf o chwech o blant. O Ysgol Dyffryn Nantlle aeth i'r Coleg Normal ond yn lle mynd yn athro ar ôl cwblhau ei gwrs aeth i weithio i'r Herald yng Nghaernarfon a oedd bryd hynny dan olygyddiaeth John Eilian.

Treuliodd ddeng mlynedd efo'r Herald cyn ymuno â'r Cambrian News i ofalu am newyddion ardal Dwyfor i'r papur hwnnw a chyfrannu ei golofn wythnosol boblogaidd dan y pennawd "Yn Fy Marn I."

Ar ei benodiad i'w swydd newydd dywedodd Ioan: "Mi wn fod llawer o waith i'w wneud ond rwy'n edrych ymlaen i wynebu'r her. Un peth sy'n apelio'n fawr yw y caf rŵan ysgrifennu popeth yn Gymraeg."

Y mae Ioan yn briod ag Owenna, athrawes, merch o Nantlle a gyfarfu gyntaf yn yr ysgol, ac mae iddynt dri o blant - Meilir, myfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion, Lleucu, myfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a He1edd, disgybl yn Ysgol Glan-y-Môr.

Y mae Ioan ac Owenna yn aelodau o Orsedd y Beirdd ers Prifwyl Bro Dwyfor yn 1975 - y naill yn Adran Llên a'r llall yn Adran Cerdd.

Dymunwn bob llwyddiant i Ioan yn olygydd ein papur cenedlaethol.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý