Cydamaethu gyda fy rhieni yn Nhy Croes, Llangybi yr oeddwn i adeg cyfarfod Chwilog, ac ymhen dwy flynedd edyn yn Hydref 1958, y dechreuais ffermio ar ben fy hun ac ymuno'n swyddogol â'r Undeb.
Gwnaeth siaradwyr y noson honno argraff ddofn ar lu o ffermwyr Llŷn ac Eifionydd y noson honno ac ar ôl mynd i'r car i gychwyn am adref, cofiaf fy Nhad yn dweud na fu cyfarfod tebyg ers amser Lloyd George, a chlywais fod aml i un arall wedi dweud yr un peth.
Yn fuan ar ôl imi ymuno a'r Undeb daeth R.O. Roberts -Ysgrifennydd y Sir, ataf a gofyn a fuaswn yn fodlon cynrychioli Sir Gaemarfon ar Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth, gan fod pwyllgor gwaith y Sir wedi fy newis. Wedi llawer o berswâd, cytunaf
Deuthum i adnabod sylfaenwyr yr Undeb yn dda, yn ogystal â chynrychiolwyr o bob Sir yngNghymru.
Cytunodd Mr W. Philip Davies, a gynhesodd at yr Undeb yn y cyfarfod yn Chwilog, i ddod yn Ysgrifennydd dros dro nes ein bod yn cael Ysgrifennydd parhaol.
Mr Emrys Bennet Owen - tad Elinor Bennet - ddaeth ar ei ôl yntau; gŵr boneddigaidd fu'n gweithio'n gydwybodol am chwe blynedd. Mr Glyngwyn Roberts oedd y Llywydd erbyn hyn, yn trafeilio i Aberystwyth o Gemaes yn Sir Fôn - taith o bedair awr a mwy, o gofio cyflwr gwael y ffyrdd yr adeg honno.
Problem fawr yr Undeb yn y blynyddoedd cynnar oedd ceisio ennill ei phlwy a chyfarfod a'r angen o wneud gwir waith undeb; sef dadlau dros iawnderau amaethyddiaeth yng Nghymru.
Doedd hyn ddim yn beth hawdd, o gofio nad oedd y Weinyddiaeth, na'r gwahanol gyrff oedd yn cynrychioli'r byd amaethyddol ar y pryd, yn ein cydnabod fel Undeb.
Roedd yr Undeb yn fwy sefydlog yn ystod y cyfnod y bum i yn un o'r Is¬-Iywyddion. Dan arweiniad Myrddin Evans fel Llywydd ac Evan Lewis fel Ysgrifennydd Cyffredinol daeth y bartneriaeth hon a sefydlogrwydd a hyder newydd i'r Undeb.
Ond bu'r frwydr i gael cydnabyddiaeth lawn i'r Undeb yn un hir a chaled. Cofiaf yn dda ymgais y. tri ohonom, ychydig cyn Etholiad Cyffredinol 1974, i berswadio John Morris i'n cyfarfod yng ngwesty'r Royal yng Nghaemarfon.
Richard Thomas, Pentir ac O.H. Parry, Trefan a minnau yn pwyso ar Mr Morris i addo y byddai'n cydnabod yr Undeb pe byddai ei blaid yn cael ei hethol i lywodraethu.
Ei ymateb yntau oedd y byddai'n ofynnol i ni brofi fod gennym gymaint o aelodau â'r N.F.U.
Bu'n rhaid aros tan 1977 cyn ennill y frwydr honno, a hynny wedi Geraint Howells roi ei gefnogaeth i John Silkin, y Gweinidog Amaeth ar y pryd, mewn rhyw gyfarfod neu'i gilydd.
Gofynnodd Silkin sut y gallai dalu'n ôl iddo am ei gymwynas, a Geraint yn ateb: "trwy roi cydnabyddiaeth lawn i Undeb
Amaethwyr Cymru".
Gwnaethpwyd sawl ymgais i uno'r ddwy undeb, ond heb fawr o Iwyddiant, gyda'r N.F U. yn anfodlon torri ei chysylltiad â LIundain, ac UAC yn dal yn gryf at ei gweledigaeth gyntaf o undeb annibynnol i Gymru; undeb oedd yn gydradd ag undebau cenedlaethol yr Alban a'r Iwerddon.
Wrth edrych yn ôl ar y cyfraniad bychan a wneuthum i dros yr Undeb a chael rhannu'r anrhydedd o fod yn Aelod am Oes â rhai a aberthodd gymaint trosti.
Ymfalchiwn yn ein staff - Mr Gwynedd Watkin yr Ysgrifennydd ardderchog sy'n llawn bywyd a brwdfrydedd, yr Ysgrifenyddion Adran gweithgor, a Gwenda am gadw trefn ar bawb yn y Swyddfa yng Nghaemarfon.
Mae'n dyled yn fawr i'r rhai a fu'n ffyddlon i'r Pwyllgor Gwaith yn y Sir ac i'r Cadeiryddion a roddodd o'u hamser er hyrwyddo'r Undeb ar hyd y blynyddoedd.
Gall yr Undeb edrych i'r dyfodol yn hyderus gan fod mwy o angen Undeb i Gymru heddiw yng ngwyneb yr holl newidiadau yn y byd amaethyddol. Pob dymuniad da a llwyddiant i'r dyfodol.