91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Erin a Gwion Sêr Cei Bach
Ebrill 2009
Bydd pump o blant o Eifionydd yn ymddangos mewn cyfres ddrama newydd sbon a ddarlledir yr Hydref nesaf ar S4C.

Lleolir 'Cei Bach', sy'n ddrama ar gyfer plant meithrin, yn Borth-y-Gest yn bennaf, ond bydd ynddi hefyd olygfeydd o leoedd eraill yn y fro.

Daw dau o'r actorion ifanc o ardal Y Ffynnon, sef Erin Dwyfor Roberts, Llystyn Canol, Bryncir, a Gwion Llwyd Jones, Gwernddwyryd, Penmorfa.

Mae Erin, sy'n 9 oed a Gwion sy'n 7, ill dau yn ddisgyblion yn Y sgol Gamdolbenmaen.

Daw'r tri arall o Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog.

Dewiswyd y plant o blith y 120 o'r rhai a gafodd glyweliad mewn gwahanol ysgolion cynradd yn nalgylch Ysgol Eifionydd yn ystod y mis diwethaf.

Dipyn o gamp, felly, i ddau ohonynt ddod o ysgol fach Y Garn.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Siân Teifi o gwmni Sianco, ei bod wedi rhyfeddu at dalentau plant lleol a'i bod yn falch o gael rhoi cyfle i bump ohonynt ymddangos yn 'Cei Bach'.

Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar hynt a helynt Prys Plismon a Mari ei wraig, sy'n cadw gwesty gwely a brecwast mewn pentref glan y môr.

Bydd Erin a Gwion yn dechrau ffilmio yn ystod yr wythnosau nesaf, ac edrychwn ymlaen at eu gweld ar y sgrin fach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý