91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Val a Brian Lynas Llysiau Llesol - Mur Crusto
02 Rhagfyr 2007
Yn ôl pob adwaith bu cryn ddiddordeb yn yr esboniadau ar darddiad yr enw Mur Crusto yn Ffynnon y mis diwethaf a diddordeb arbennig gan wraig bresennol y tyddyn, sef Val Lynas sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol mewn cwta ddwy flynedd a hanner. Mynycha ddosbarth ym Mhorthmadog ddwywaith yr wythnos.
Mae'n wir fod ganddi fantais ar y mwyafrif o ddysgwyr gan ei bod yn ieithreg o reddf. Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg y mae hefyd yn siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn medru Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg i raddau llai.

Rheolwraig mewn ysgol i ddysgu athrawon sut i ddysgu ieithoedd oedd ei swydd cyn symud yma i Eifionydd o Ddyfnaint, ac mae hi'n dysgu Sbaeneg i ddosbarth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym Mhorthmadog y dyddiau hyn.

Yr hyn a wna hi a'i phriod Brian ym Mur Crusto yw tyfu a gwerthu llysiau organig. Tyfant amrywiaeth o tua hanner cant o lysiau a pherlysiau, gan gynnwys rhai Chineaidd, ar erw o dir sy'n cynnwys ty gwydr plastig mawr 120 troedfedd wrth 30 troedfedd a gododd Brian ei hunan. Gosodant y gweddill o dir Mur Crusto i ddefaid cadw yn y gaeaf a gwartheg yn yr haf.

I dyfu llysiau mae dwr glaw yn well na dwr tap, ac ym Mur Crusto crynhoir pob diferyn oddi ar do y ty gwydr i dri phwll a'i bwmpio wedyn i un-ar-ddeg o danciau sy'n dal tunell yr un.

Ar gyfer y gofynion organig, trefn a archwilir yn rheolaidd gan Gymdeithas y Pridd, y maent yn ffodus fod ganddynt ddigon o dail am flynyddoedd gan mai pobl yn cadw ceffylau oedd ym Mur Crusto o'u blaenau ac fe adawsant domen enfawr o dail ar eu holau.

Eu dull o werthu llysiau yw derbyn archebion ar ffurflenni a llenwi bocsus unwaith yr wythnos i'w cwsmeriaid ar y cyd gyda Mike Lanley a Jill Jackson o Dy'n Lôn Uchaf gerllaw. Daw'r archebion ar draws gwlad o Flaenau Ffestiniog i Forfa Nefyn.

Un o Swydd Efrog yw Val Lynas yn wreiddiol. Bu'n byw yn yr un pentref yno ag un arall yn ein plith sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, sef Lil Parker, Pensarn, Sardis.

Cyfarfu Val a Brian yny Brifysgol yn gyd-aelodau o Glwb Mynydda, ac fe briododd y ddau pan oeddynt yn fyfyrwyr. Daearegwr yw Brian. Enillodd ei Ddoethuriaeth yn Rhydychen am waith ymchwil ar y Migneint a bu wedyn yn gweithio ledled y byd i'r British Sociological Survey cyn ymddeol yn gynnar, gynnar i dyfu llysiau. Yr holl grwydor sy'n cyfrif fod pedwar plentyn Val a Brian, dau fab a dwy ferch, wedi eu geni mewn pedair gwlad Lloegr, Canada, Fiji a Peru.

Daearegwr oedd taid Brian hefyd. Ef oedd y cyntaf i wneud mapiau daearegol o drwyn Bwlchtocyn. Yn sgil hynny fe dreuliodd Brian sawl gwyliau haf yn Llangian a Llanengan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý