91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Gruffydd Jones, Llwyn Derw Y Ras 'Redig
Ebrill 2008
Os oeddech chi'n digwydd bod ar y stryd yng Ngricieth yn go gynnar fore Sadwrn diwethaf fedrwch chi ddim bod wedi peidio â sylwi ar y llu lorïau a threlars oedd yn pasio
Pob un ohonynt yn cario rhyw lun ar beiriant amaethyddol - rhai yn sgleinio fel swllt, eraill ag' arnynt ôl gwaith blynyddoedd.

Roedd tractorau crand fel newydd yn pasio hefyd ac ambell i JCB mawr melyn. Fe ddeuent o bell ac agos.

Ar eu ffordd yr oedd y cwbwl i ben draw Llyn, i fferm Bodwyddog Fawr, Y Rhiw a bod yn fanwl, a hynny er mwyn Sadwrn cystadlu yn Ras Aredig flynyddol Sarn Mellteyrn a'r Cylch.

Yr oedd rhai wedi teithio y diwrnod cynt ac wedi aros dros nos, eraill wedi cychwyn yn blygeniol er mwyn cyrraedd mewn pryd. Syndod oedd deall fod yno rai o gyn belled a Willoughby - on - the -Wolds, pentref bychan yn Swydd Nottingham ac eraill o Rotherham, yn ogystal â Chymry o Gastell Newydd Emlyn a thu hwnt.

Bu'r trefnwyr yn eithriadol o ffodus yn y tywydd ac er bod y gwynt braidd yn oer ar brydiau cafwyd diwrnod gwerth chweil a balchder y dynion (erbyn meddwl, welais i yr un ferch) wrth eu gwaith, y manylder a'r canolbwyntio yn destun edmygedd.

Gruffydd Jones, Llwyn Derw, Rhoslan ddaeth i'r brig eleni gan ennill y wobr gyntaf yn ei ddosbarth am aredig clasurol. Ei frawd, Gareth Jones, Ty'n Coed, Abererch ddaeth yn ail yn yr un gystadleuaeth.

Cipiwyd y wobr am y 'redigwr gorau ymhlith cystadleuwyr o Ddwyfor hefyd gan Gruffydd Jones. Yn drydydd yn y dosbarth ar gyfer redigwyr o Ddwyfor yr oedd un aran o hogiau ardal Y Ffynnon sef Edwin Hughes, Bryn Llefrith, Llangybi. Yn y gystadleuaeth ffensio tîm Arwyn Williams, Hendre Nantcyll, Pantglas ddaeth i'r brig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý