Aeth Esyllt eu merch i Batagonia bythefnos yn ôl a bydd yn aros yno hyd fis Rhagfyr, onid yn hwy, efallai. Wedi mynd drosodd i ddysgu Cymraeg i rai o drigolion Dyffryn Camwy y mae Esyllt. Bydd ganddi ddosbarthiadau yn y Gaiman, Trelew a Dolafon. Un arall sydd yn y Wladfa dan yr un cynllun yw Lois Angharad Williams o Chwilog, y bu ei hanes yn y Ffynnon rhyw hanner blwyddyn yn ôl. Mae hi yn Esquel gryn bedwar can milltir o'r Gaiman. Ar ôl graddio yn Aberystwyth ac uwchraddio yng Nghaerdydd bu Esyllt yn olygydd gyda chwmni cyhoeddi Carreg Gwalch am bedair blynedd a hanner ac yna'n athrawes yn y Bontnewydd am y tair blynedd diwethaf. Y maes hi'n awdur nifer o lyfrau ac enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mro Preseli yn 1995. Buasai Esyllt wedi hoffi mynd i Brifwyl yr Urdd ym Môn eleni hefyd yn enwedig gan fod ganddi blant bach o ysgol Bontnewydd wedi mynd rhagddynt o'r 'steddfod sir ar gyflwyno ymgom. Ond mae un cysur; fe gaiff hanes yr eisteddfod i gyd ar y we. Bu gan Esyllt ddiddordeb yn y Wladfa ers blynyddoedd a dyfnhaodd yr awydd am fynd yno pan olygai lyfr Twm Morys ac Iwan Llwyd, 'El Dorado', yn adrodd hanes eu teithiau yn Ne America a chyfrol Bethan Gwanas 'Teithiwr Talog' Gan fanteisio ar ei phrofiad yng Ngwasg Carreg Gwalch y mae Esyllt wedi addo rhoi cymorth i ferch Irma Hughes de Jones i gyhoeddi'r 'Drafod', papur y Wladfa a sefydlwyd gan yr arloeswr Lewis Jones yn 1891. Bu Irma, wyres i'r nofelydd Gwyneth Vaughan a mam Guy Hughes, yr hen dynnwr lluniau ym Mhwllheli erstalwm, yn golygu'r 'Drafod' am hanner can mlynedd namyn mis cyn ei marw y llynedd. Y mae cynolygydd amlwg arall yma yng Nghymru yn berthynas iddi, sef John Roberts Williams. Am adnoddau i'w chynorthwyo yn ei gwaith y mae Esyllt yn ddiolchgar iawn i Enid Parry, pennaeth yr Uned laith yn Ysgol Llangybi, am roi iddi set o Gynllun y Llan a ddarparwyd yn Llangybi i ddysgu ail iaith dan gyfarwyddyd John Richard Hughes pan oedd ef yn bennaeth yr Uned. Mae Esyllt yn ddiolchgar iawn hefyd am lawer o lyfrau a gafodd at gyfer dosbarthiadau'r Wladfa gan Lên Llŷn, Siop Eifionydd, Siop Pendref, Bangor, Palace Prints, Caernarfon, Gwasg Gwynedd a chwmni Sain yn ogystal a chan unigolion. Bu Esyllt yn llysieuwraig am tua deng mlynedd ond mae'n falch erbyn hyn ei bod wedi ail-ddechrau bwyta cig gan fod cymaint o bwyslais ar hynny yn Ariannin. Nid asado, asado di-gig debyg!
|