Ei dad, y diweddar J O Roberts, oedd ysgrifennydd cyntaf y cwmni cydweithredol o ffermwyr lleol a sefydlodd yr Hufenfa yn 30au'r ganrif ddiwethaf.Ymhlith y creiriau roedd llyfr cofnodion y cyfarfod cyntaf un, ar Fai 27ain 1936, o bwyllgor yr hyn y bwriedid ei alw'n'Eifion Creameries'.
"Syniad fy nhad oedd sefydlu cwmni cydweithredol" meddai Wil Roberts. "Roedd o'n gweithio ar fferm Coleg Bangor yn Abergwyngregyn yn y cyfnod hwnnw ac yn sgwennu colofnau ar amaethyddiaeth i'r wasg. Mewn erthygl ym mhapur newydd 'Y Genedl' y gwyntyllodd o'r syniad gynta, ac o'r fesen honno y tyfodd y goeden braff sydd yn Rhydygwystl heddiw".
"Doedd hi ddim yn hawdd ar y cychwyn" meddai. "Ddaeth yr un copa walltog i'r cyfarfod cyhoeddus cynta a drefnwyd ym Mhwllheli i drafod cychwyn hufenfa. Ond roedd gwell trefn erbyn yr ail gyfarfod a chafwyd digon o gynulleidfa i ddewis pwyllgor.
"Digon llugoer oedd trwch ffermwyr y cylch ar y pryd. Dim ond ar ôl i'r rhai a oedd yn gyrru eu llaeth i'r ffatri ddechrau derbyn sieciau'n fisol y sylweddolodd y rhan fwyaf fod cydweithredu'n talu".
"Pan ddigwyddodd hynny, agorodd y llifddorau gyda ffermwyr yn ymryson â'i gilydd am gael dod yn aelodau o'r cwmni newydd. Ond dim ond hyn a hyn o laeth allai'r ffatri ei drin ar y dechrau a bu raid dogni ar aelodaeth yn fuan iawn. Mae sawl llythyr gan ffermwyr yn crefu am gael dod yn aelodau".
Ymhlith y creiriau hefyd mae pentwr o lythyrau oddi wrth Mr H E Roberts, yn wreiddiol o Laniestyn, a oedd yn gweithio ar y pryd fel trefnydd i'r Welsh Agricultural Organisation Society yn Aberystwyth, corff a oedd yn annog ffermwyr i gydweithredu wrth farchnata eu cynnyrch.
"Roedd H E a nhad yn ffrindiau mawr", meddai Wil "a'r ddau yn rhannu llety pan oedden nhw yn y Coleg ym Mangor efo'i gilydd. Roedd H E yn yr union swydd lle gallai fod fwyaf o help i'r fenter newydd ac mae'n amlwg o'r ohebiaeth i'w gyfraniad fod yn amhrisiadwy".
Menyn a gynhyrchid yn y ffatri yr adeg hynny ac ymhlith y papurau mae englyn i Fenyn Eifion gan y diweddar Guto Roberts, Rhoslan, a fu'n gwerthu'r menyn i siopau lleol am flynyddoedd.
Un blasus, ca pawb ei blesio - a llu
Gyda llaw'n ei geisio
A choeliwch, does er chwilio
Un i'w gael sy'n well nag o.
Dechreuwyd gwneud caws ym 1958 a dyma englyn iddo gan y diweddar John Rowlands, y Ffôr, a oedd yn gyrru lorri laeth i gasglu llaeth ffermwyr cylch Aberdaron ar y pryd.
Hen luniaeth a foliannwn - ar ei nodd
A'i fawr nerth dibynnwn
Saig y tir fe wasgwyd hwn
O geinder dô1 a gwndwn
Yn naturiol, Cymraeg oedd iaith pwyllgor yr Hufenfa o'r cychwyn a cheir llythyr oddi wrth Gymdeithas yr laith Gymraeg, dyddiedig 25ain Mawrth 1965, yn llongyfarch yr Hufenfa "ar gyhoeddi ei mantolen flynyddol yn yr iaith Gymraeg. Yn ddiau, dyma'r weithred rymusaf o blaid y Gymraeg a gyflawnwyd ers amser maith a chredwn yn ddiffuant y bydd ei dylanwad yn drwm ac yn llesol all fywyd ein gwlad".
Roedd hyn, wrth gwrs, cyn dyddiau dilysrwydd cyfartal a statws cyfreithiol i'r iaith.
Trosglwyddwyd y casgliad i Archifdy Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon. "Er fod hanes yr Hufenfa wedi'i groniclo'n bur dda, does dim tebyg i ddarllen y papurau gwreiddiol i roi blas y cyfnod ar yr hanes" meddai Wil Roberts. "Bydd rhain ar gael yn yr Archifdy i bawb eu gweld".