1. Cefais fy ngeni a'm magu yn: Llanrug2. Rwy'n byw yn awr yn: Mryncir
3. Fy swydd yw: Actores
4. Pa swydd ar wâhan i'ch swydd bresennol a fyddwch yn hoffi wneud? Creu crochenwaith
5. Beth oedd eich car cynta? : Citroen
6. Beth yw eich car presennol? Hen B.M.W. Estate
7. Pa gar yr hoffech gael? B.M.W. Estate newydd
8. Pa raglenni a fyddwch yn gwrando fwyaf arnynt ar Radio Cymru? Jonsi
9. Pa raglenni fyddwch chwi yn eu gwylio fwyaf ar S4C? Newyddion
10. Pa beth sydd yn gwneud i'ch gwaed ferwi? Cymry sy'n siarad Saesneg gyda'u plant.
11. Pa anifeiliaid anwes sydd yn byw yn eich ty chwi? Cathod
12. Pe buasech yn ennill pryd o fwyd i dri mewn gwesty moethus, pa ddau berson arall fuasai'n cael y fraint o'ch cwmni? Morgan a Nel
13. Sut y byddwch yn ymlacio? Garddio
14. Pa un yw eich hoff siwrnai? Adra
15. Pa berson ydych yn ei edmygu? Mahatma Ghandi
16. Beth yw eich hoff anifail? Ci
17. Ar daeth hir yn y car pa dapiau byddwch yn gwrando arnynt? Sgin i'm tâp yn y car
18. Sut y byddwch yn hoffi cael eich cofio? Nid oes gwahaniaeth gennyf
19. Beth sydd yn eich digalonni? Dim siocled yn y ty
20. Pa amser o'r dydd sydd orau gennych? Gyda'r nos wrth y tân a'r plant yn cysgu.
21. Pryd ac yn lle y buoch hapusaf? Rwan
22. Gyda phwy y buasech yn hoffi treulio penwythnos? Tad fy mhlant
23. Beth yw eich syniad o hapusrwydd perffaith? Mynd am dro yn yr eira a'r haul yn tywynnu
24. Petai'n rhaid i chwi adael Cymru, pa wlad arall fyddai eich dewis a pham? Iwerddon achos mae'n agos i bicio adra i ddyfrio'r planhigion!