91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Eirian Hughes Sioe Nadolig olaf
Rhagfyr 2009
Bu'r Nadolig yma yn wahanol iawn i athrawes o Finffordd.

Am ddeng mlynedd ar hugain y mae Mrs Eirian Hughes wedi mwynhau ei rhan yn paratoi plant Ysgol Garndolbenmaen ar gyfer eu cyngerdd Nadolig.

Gofalu am y gwisgoedd gyda chymorth y rhieni, a chael y plant i ddysgu'r geiriau fu ei chyfraniad pennaf.

Y flwyddyn nesaf, fodd bynnag, edrych ymlaen am wahoddiad i'r cyngerdd y bydd hi.

Mae'n ymddeol yn gynnar y Nadolig hwn i gael rhagor o amser hamdden.

Ar wahan i wnîo, un o'i phrif ddiddordebau yw cerdded ac mae'n ystyried ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd gan fod hynny'n ffordd dda i gymdeithasu, a cherdded mewn criw yn ddiogelach bid siŵr.

Efallai y try at chwarae golff hefyd ond nid mor amI â'i gŵr!

Nigel Hughes, y ffotograffydd, yw hwnnw.

Un o genod Porthmadog yw Eirian Hughes.

Ar ôl ei chymhwyso ei hun yn athrawes yn y Coleg Normal bu'n dysgu am gyfnod byr yn Lerpwl ac wedyn yn Henryd, Dyffryn Conwy cyn dychwelyd i Eifionydd, i Ysgol y Garn, ar ôl priodi.

Yn ystod ei chyfnod yn athrawes gwelodd newidiadau sylweddol ym myd addysg - a'r peth mwyaf cyson fu'r newid cyson, meddai hi.

Bydd chwith garw ganddi golli'r hen blant.

Dyna un rheswm pam y gobeithia gael gwahoddiad i gyngherddau Nadolig y dyfodol.

Bydd rhai o'i chyn ddisgyblion yn dal yn yr ysgol am rai blynyddoedd eto.

Ei holynydd y tymor nesaf fydd Mrs Gwenno Sian Jones, sy'n hannu o Abergele, ond yn byw bellach yn Crugan, Llanbedrog.

Mae hi wedi bod yn athrawes dros dro yn y Garn ers mis Medi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý