91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Mark Barlow a'r tlws Crefft ac Iaith
Gorffennaf 2005
Crefftwr a fu ei hunan yn ddysgwr Cymraeg a luniodd y tlws a gyflwynir i Ddysgwr Cymraeg y Flwyddyn ym Mhrifwyl Eryri - ac mae Mark Barlow, Soar, Llangybi yn ystyried hynny yn fraint fawr.
Yn ogystal â'r tlws i'r enillydd, lluniodd hefyd dlysau llai i'r tri arall a ddaeth i'r rownd derfynol.

"Mae'r pedwar yn enillwyr mewn gwirionedd," meddai Mark, sy'n aelod o bwyllgor Pabell Dysgwyr yr Eisteddfod lle cyflwynir nifer helaeth o weithgareddau ym Maes D yn ystod yr wythnos.

Lluniwyd y tlysau o bren derw lleol a cherfiwyd arnynt amlinell o fynyddoedd Eryri.

Un o Gosport yw Mark yn wreiddiol. Hyfforddwyd ef i drin coed mewn coleg celfyddyd a gwelir enghreifftiau o'i waith cerfio mewn arddangosfa yng Nglynllifon ym mis Medi.

Y mae iddo ef a'i briod, Einir, fab a merch, Gethin Huw (11) a Ffion (8). Trwy geisio bod un cam o flaen Gethin pan oedd hwnnw'n dechrau siarad yr aeth Mark ati'n wreiddiol i ddysgu Cymraeg. Yn byw ym Mryste, penderfynodd Einir, sy'n hanu o Lanrhos, ac yntau, mai Cymraeg yn unig a siaradent o flaen Gethin - ac o flaen Ffion yn ddiweddarach.

Y rheswm dros ymfudo o Fryste i Langybi oedd i sicrhau addysg Gymraeg i'r plant a rhoi cyfle iddynt fagu gwreiddiau yng Nghymru.

Mae Mark erbyn hyn yn gwbl rugl ei Gymraeg. Mae wedi pasio arholiadau TGAU a Lefel A yn yr iaith, ac mae hanner y ffordd drwy gwrs gradd allanol o Goleg y Brifysgol Aberystwyth.

Ers mis Medi y llynedd y mae hefyd yn athro ar dri dosbarth dysgu Cymraeg i oedolion un yn Harlech a dau yn Mhorthmadog.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý