A go brin fod un gwell yn unman na Siôn o'r eiddo Harri Williams, Chwilog.
Yn un peth, fe gafodd ddigon o brofiad oherwydd y mae bellach dros ei drigain oed.
Mae Harri Williams yn cofio ei rieni yn mynd ar y trên i Fangor ac yn prynu Siôn yn siop yr hô1 am chweugain (deg swllt, hanner can ceiniog).
Yn 1958 y bu hynny ac yr oedd Si6n yn ddeg oed yr adeg honno.
Fe'i bedyddiwyd yn Siôn ond ni wyddis eto p'run ai gwryw ynteu benyw ydyw.
Fel rheol a Siôn i gysgu dros y
gaeaf ar y drydedd wythnos ym Medi a
deffro ar yr wythnos gyntaf ym Mawrth.
Y llynedd, oherwydd tynerwch yr hin, fe ddeffroes ym mis Chwefror, ond eleni, gan y bu mor ofnadwy o oer, fe swatiodd tan ddiwedd Mawrth.
Ei hoff fwyd yw dant y llew - ac mae digonedd o'r rheini y dyddiau hyn - afalau a letys. A'i ffrindiau pennaf yw cath drws nesa'.
|