Felly, yn lleol, yr adwaenir y ganolfan sy'n cynhyrchu danteithion y "Welsh Lady", a welir mewn siopau ledled y byd.Y cynnyrch y gwirionodd y beirniaid arno oedd ceuled afal a sinamon. Am hwnnw y dyfarnwyd i Deio a MarionJones dri thlws - am y cynnyrch gorau o Gymru, y cynnyrch gorau o Brydain a'r Brif Bencampwriaeth. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r gamp driphlyg gael ei hennill gan yr un cwmni ddwywaith. Sefydlwyd busnes y "Welsh Lady" yn yr hen wersyll carcharorion rhyfel yn y Ffor yn 1965. Mae yno bymtheg o bobl yn gweithio. Yn ogystal â jam cynhyrchir hefyd amrywiaeth o fwstard, sawsiau, siytni ac wyth math o geulod. Dywed Deio y bydd yn hel mwyar duon i gael teisen gartref ond daw'r rhan helaethaf o'r ffrwythau ar gyfer gwneud jam o bedair gwlad - Gwlad Pŵyl, Chile, Twrci a China. Mae'n dymor i fefus a chwsberins ac ati yn un ohonynt rownd y flwyddyn. Rhyw bumed rhan o'r cynnyrch a werthir dan enw "Welsh Lady". A'r gweddill dan label cwmnïau eraill, llawer ohono drwy law asiant yn Seattle, U.D.A. Eleni roedd Deio a Marion yn amau fod rhywbeth mawr ar droed pan anfonodd y trefnwyr ddau docyn yn rhad ac am ddim iddynt fynychu'r wledd yn Olympia - dau docyn gwerth £95 yr un! Oherwydd trefniadau blaenorol yr oeddynt wedi methu mynd ddwy flynedd yn ôl er i'r trefnwyr gynnig eu nol a'u danfon mewn hofrennydd. Bu'r wledd yr wythnos ddiwethaf yn dipyn o brofiad, yn ôl Deio. Cael llifoleuadau arnynt ar y llwyfan megis sêr y ffilmiau mewn seremonïau cyflwyno Oscars! Hefyd: Digon Da i'r Cwîn Mae'r frenhines wedi gwirioni ar gaws Rhydygwystl, fe ymddengys. Yn dilyn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd daeth Palas Buckingham i gysylltiad â'r Hufenfa yn dweud fod y frenhines yn awyddus i gael peth o gaws Hen Sir ar gyfer ei gwyliau yn Balmoral - ac ar ôl iddi ddychwelyd i Lundain. Yn ôl llefarydd o'r Palas peth anarferol iawn yw i'r frenhines wneud sylw am y bwyd ar ôl bod ar daith - oni bai fod y bwyd yn wael iawn. I'r gwrthwyneb yr oedd hi y tro hwn, meddid. 'Roedd y ffaith i'r frenhines geisio'r Hen Sir yn ganmoliaeth uchel ac yn adlewyrchiad da ar safon y cynnyrch.
|