1. Cefais fy ngeni a'm magu yng: Nghaernarfon2. Rwy'n byw yn awr yng:Nghapel Uchaf, Clynnogfawr.
3. Fy swydd yw: Dylunydd.
4. Pa swydd ar wahân i'ch swydd bresennol a fyddwch yn hoffi ei gwneud wneud? Saer coed
5. Beth oedd eich car cynta ? Mini Clubman P' Reg
6. Beth yw eich car presennol? Audi A4 Tdi
7. Pa gar yr hoffech gael? Audi TT
8. Pa raglenni a fyddwch yn gwrando fwyaf arnynt ar Radio Cymru' ? Rhaglenni hwyr y nos a newyddion.
9. Pa raglenni fyddwch chwi yn eu gwylio fwyaf ar S4C?Rownd a Rownd, Croma a'r Newyddion.
10. Pa beth sydd yn gwneud i'ch gwaed ferwi?Pobl yn taflu sbwriel ar y stryd.
11. Pa anifeiliaid anwes sydd yn byw yn eich ty chi?Dim un
12. Pe buasech yn ennill pryd o fwyd i dri mewn gwesty moethus, pa ddau berson arall fuasai'n cael y fraint o'ch cwmni?Moira Mai a Wil Sam
13. Sut y byddwch yn ym1acio? Pysgota plu.
14. Pa un yw eich hoff siwrnai?Ar hyd 16n y Foryd a Bont Abermenai i Lanwnda, yn dilyn y Fenai fin nos o haf.
15. Pa berson ydych yn ei edmygu? Mohammed Ali am ei ddaliadau moesol diwyro.
16. Beth yw eich hoff anifail?Un wedi ei rostio, efo tatws Llyn amoron.
17. Ar daith hir yn y car pa dapiau y byddwch yn gwrando arnynt?Y Cyrf Leonard Cohen, Bob Dylan ac Edward H.
18. Sut y byddwch yn hoffi cael eich coflo?Yn aml.
19. Beth sydd yn eich digalonni? Safon iaith ein plant.
20. Pa amser o'r dydd sydd orau gennych?Oriau mân y bore.
21. Pryd ac yn lle y buoch hapusaf?Yn fachgen 13 oed yn pysgota pob dydd ym Mae Caernarfon efo mrawd.
22. Gyda phwy y buasech yn hoffi treulio penwythnos?Rhywun, cyn belled a'u bod nhw'n talu!
23. Beth yw eich syniad o hapusrwydd perffaith?Heddwch i bawb a blodau tlws.
24. Petai'n rhaid i chwi adael Cymru, pa wlad arall fyddai eich dewis a pham?Iwerddon, y Gorllewin. Pobol glên a chynnes, Guinness a miloedd o lefyd da i sgota!