91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Catrin ar y chwith gyda'i chwaer Nanw a'i brawd Dic yn Nhan-ybryn Plentyndod yn Eifionydd
Hydref 2007
Pan oedd Catherine Jobbins, yn gwrando ar un o'i hwyrion yn adrodd Salm 100 dygodd iddi atgofion am ddyddiau plentyndod yn Eifionydd.

Merch o Bencaenewydd yw Catherine - Catherine Lewis, Tanybryn gynt - ac yn y rhifyn cyfredol o 'Y Gadwyn', cylchgrawn Eglwys y Crwys, Caerdydd, mae'n ysgrifennu am weithgareddau'r ysgol Sul erstalwm.

Gall llawer ohonom uniaethu a'r hyn a ddywed am yr arholiad sirol a sasiwn y plant. Dyma ran o'i hysgrif:

Ar y sadwrn penodedig roedd pawb i ymgynnull yn y festri gyda'i ben holder a'i botel inc. Doedd dim llawer ohonom yn berchen ar fountain pens yn ysgol sul Pencaenewydd y cyfnod a doedd beiro ddim yn bodoli.

Yr ysgol Sul oedd yn ymorol am y blotting paper holl bwysig ac am y papur wrth gwrs.

Roedd y rheolau mor gaeth ag unrhyw arholiad ysgol heddiw, pawb yn eistedd ddigon pell oddi wrth ei gilydd fel ei bod yn amhosib cael cipolwg ar bapur unrhyw un arall, a phawb i droi'r papur cwestiynau drosodd ar yr un pryd.

A'r canlyniadau - roedd tri dosbarth, os cofiaf yn iawn, yr hufen oedd i gael tocyn llyfr gwerth banner Coron, a'r llyfr i'w gyflwyno yn Sasiwn y Plant; y rhai llai hufennog, megis fy hunan oedd a gormod o flots ar eu papur yn llythrennol, ac fel arall, yn cael tocyn llyfr gwerth deuswllt, eto i'w gyflwyno yn Y Sasiwn, a'r gweddill yn cael eu gwobrwyo yn yr Y sgol Sul.

Ond uchafbwynt yr holl brofiad ysgrythurol hwn i mi oedd cael gorymdeithio ar ddiwrnod mawr Y Sasiwn tu ôl i fand Trefor trwy dref Pwllheli.

Cofio teimlo'n sobor o swanc yn fy nillad newydd a brynwyd yn arbennig ar gyfer yr amgylchiad. Ond yn goron ar y diwrnod oedd y sgram oedd yn ein haros yng Nghaffi Gwalia yn y stryd fawr, mae yno o hyd (y caffi felly!), cyn inni ei throi hi am adref ar fotor coch Clynnog a Threfor.

Does gen i fawr o gof am y llyfrau a dderbyniais ond am un. Fy nhad oedd wedi dewis hwnnw am ryw reswm o Caxton Pwllheli, yr unig siop oedd yn gwerthu llyfrau ar y pryd - Adroddiadau'r Co' Bach oedd ei ddewisiad.

Doedd mam ddim yn impressed o gwbl. 'Beth ddaeth dros dy ben di i brynu llyfr o'r fath i'r hogan.' Rhywbeth fel y 'Secret Seven' neu'r 'Famous Five' oedd gan fy mam mewn golwg mae'n debyg ond gweld cyfle oedd fy nhad rwy'n siwr (fel ffan mawr o'r Noson Lawen) i gael orig fach ddifyr gyda'r nosau yn chwerthin o'i hochor hi wrth ddarllen yr adroddiadau digrif hyn, a roeddwn i'n ddigon hapus â'i ddewisiad.

'Pob pant a gyfodir. Pob mynydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a wneir yn uniawn a'r anwastad yn wastadedd'. Dyna'r dyfyniad y byddai ein hathro daearyddiaeth yn ysgol Pwllheli, y diweddar John Williams, yn ei roi inni i gyfleu'r effaith gafodd gostyngiad yn y tymheredd ar ein byd filiynau o flynyddoedd yn ôl - darlun mor gryno ac mor weladwy.

Rhan o fawredd dysgu darnau ar y cof, boed yn farddoniaeth o'r Beibl neu o unrhyw ffynhonnell arall, dybiwn i, yw bod yna eiriau y gallwn eu hatgyfodi i ddisgrifio sawl sefyllfa, ddwys neu ddoniol, yn y ffordd orau bosibl.

Rwy'n siwr y bydd Gruffudd a'i gyfoedion o Ysgol Melin Gruffudd yn cofio ac yn gallu gwerthfawrogi am flynyddoedd i ddod y geiriau,

'Cenwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaear...'

Catherine Jobbins


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý