Sefydlwyd y busnes i ddechrau yn 1875 gan wr o'r enw Mr J Bowen, Fferyllydd ydoedd ac ef oedd yn gyfrifol am newid enw 1 Bro Gyntun, Cricieth yn Medical Hall. Roedd y siop bryd hynny hefyd yn llyfrgell, yn ganolfan rhentu cadeiriau i'r anabl ac yn off licence i'r ardal gyfan. I lawr yn y seler roedd cwrw yn cael ei botelu gan beiriant arbennig a'i labelu gyda'r enw Bowen. Yn 1906 y daeth Edward Davies Hughes i gadw'r siop. Gwr ydoedd a anwyd yn Kashai yn yr India lle roedd ei dad yn genhadwr. Roedd y fferyllwr ifanc yn wybodus iawn am feddyginiaethau ar gyfer anifeiliaid yn ogystal â phobl a phan fyddai anhwylder ar rhyw anifail yn yr ardal i'r Medical Hall y deuai llawer o'r ffermwyr i nol ffisig. Roedd stabl islaw'r siop, lle mae'r garej heddiw, ac yma y cedwid Polly y gaseg a'r trap a ddefnyddid i gario cwrw i'r ardal. I'r ystafell yng nghefn y siop y deuai David Lloyd George i sgwrsio efo "Hughes" a thrin materion y byd. Parhaodd y siop i gynnig amrywiaeth o nwyddau yn y blynyddoedd diweddarach hefyd. Daeth teganau ar y silffoedd yn ogystal ag amrywiaeth o chwaraeon traeth a chardiau post. Ganed dau fab i Edward a'i briod Jane, sef John a Peter ac wedi marw ei dad yn 1956 daeth John yn bartner yn y busnes gyda'i fam. Yn 1962 priododd yntau gyda Nell a ganed iddynt hwythau ddau fab sef David a Michael. Wrth ffarwelio a'r siop y mae John a Nell yn edrych ymlaen at ryddid yr ymddeoliad ac yn dymuno'r gorau i George a Jackie Povey a'r plant sydd wedi prynu'r busnes. Dymunwn ninnau'n dda i'r ddau gwpwl i'r dyfodol.
|