91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Hen lun o Talhenbont Choeliech chi fyth!
Hydref 2008
(Ysbrydion dau hen basty)

Mi fydd hi'n Noswyl Ifan ddiwedd y mis hwn. Gŵyl yr Holl Saint, meddai'r calendr eglwysig.

Ond mae'r hen goelion paganaidd am ysbrydion yn dal yn dynn eu gafael yn nychymyg pobl, hyd yn oed heddiw yn oes technoleg a chyfrifiadur.

Mae rhai rhaglenni radio a theledu yn cynnal y diddordeb a'r chwilfrydedd mewn coelion fel hyn.

Mae ambell wyddonydd dros y blynyddoedd wedi ceisio gwneud ymchwil i'r mater, ond mae enw da gwyddonydd sydd yn gwneud hynny yn y fantol, gan mai ofergoeliaeth a dychymyg ydy'r cyfan ym marn pob gwyddonydd bron.

Beth goeliwch chi?

Dyma Lora Roberts yn adrodd profiad rhai o drigolion Eifionydd mewn dau blasty, Talhenbont a Threfan.

Talhenbont

Mae sôn am ysbryd Talhenbont wedi bod erioed, er i mi'n bersonol weld na chlywed neb yno. Ond 'doeddwn i ddim yn rhy hoff o fod yno un amser.

Roedd fy chwaer wedi mynd yno i weithio yn syth o'r ysgol, ac arferwn innau fynd ati ambell gyda'r nos.

'Doedd y lle yr adeg honno ddim fel y mae heddiw. Roedd panelau coed duon ar y muriau trwchus, y coridorau'n gul a thywyll, paent heb fod yn olau ar y muriau a'r lle yn drwm o hen hanes.

Na, fûm i erioed yn hapus yno er mod i yno'n eitha aml efo fy chwaer.

Roedd fy nhad yn nabod y lle fel cefn ei law, ac wedi gweithio arno pan oeddent yn ei wneud yn barod ar gyfer teulu Nannau, sef Lady Ellis Nanney a'i merch, a'i phriod, Canon J P Lewis, rheithor plwyf Llanystumdwy, i symud yno o Blas Gwynfryn i fyw.

Saer coed

Rywbryd yn ystod y cyfnod rhwng 1925 a 1927, a fy nhad wedi bod yn saer coed i'r ystad am beth amser erbyn hynny, roedd yn gweithio ar dy Talhenbont gyda'r paentwyr a'r trydanwyr. (Roeddent wedi gwneud Tŷ Criw yn bwerdy i gynhyrchu trydan ar gyfer Talhenbont gan ddefnyddio dŵr o'r afon.).

Aeth Nhad yno yn gynnar tua chwech o'r gloch un bore i wneud rhyw waith coed yn barod ar gyfer y trydanwyr a oedd yn dechrau am wyth o'r gloch.

Tra roedd yn y stafell bellaf ar ben y grisiau clywodd sŵn traed yn dod ar hyd y landing ac yn aros y tu allan i'r drws, a meddyliodd fod y gweithwyr eraill o'r un feddwl ag ef ac yn dechrau'n gynnar.

Aeth at y drws i'w agor ond doedd neb yno a theimlodd yn ddigon rhyfedd, achos yr oedd wedi clywed am ysbryd y plas ond heb rhoi llawer o sylw i'r peth.

Ni soniodd wrth neb am y peth ond ymhen ryw wythnos gwelodd Jac Wiliam oedd yn byw yn Lodge Talhenbont gyda'i dad a'i fam.

John Roberts, ei dad, oedd yn gofalu am agor a chau'r plas.

Gofynnodd fy nhad i Jac a oedd o'n credu fod rhywbeth yn yr hen dy. "Mi ddeudai stori wrthat ti," meddai Jac. "Dipyn yn ôl mi ddwynis i oriad y tŷ i fynd yno i garu, am mi aethom ni i'r llofft bella ar dop y grisiau.

"Toc dyma sŵn cerdded yn dod at y drws, a meddyliais fod rhywun wedi ffendio ein bod yno ac wedi dod i bryfocio, ond pan agorwyd y drws doedd neb yno. " Bu bron i'r hen hogan a mynd allan drwy ffenest y llofft gan ei bod wedi dychryn gymaint."

Roedd hi'n amlwg bod y ddau wedi cael yr un profiad, yn yr un lle.

Ond Welodd fy nhad ddim na chlywed dim wedyn am sbel.

Teulu

Bu i'r teulu symud i Dalhenbont, a chyn bo hir bu farw Lady Ellis Nanney, ac, yn naturiol, fy nhad oedd yn gwneud ei harch o goed y stad ac aeth i weithdy Talhenbont i'w gwneud un noson ac aeth a saer arall hefo fo i'w helpu.

Roedd hi rhwng hanner nos a dau, a hwythau'n cael paned, pan glywsant sŵn traed yn croesi'r graean ar draws yr iard a meddyliodd fy nhad mai Canon Lewis oedd yn dod i weld sut roedd pethau'n mynd, ac agorodd y drws.

Doedd neb yno.

Gofynnodd i Canon Lewis yn y bore a oedd o wedi bod allan yn hwyr, ond na, 'roedd o yn ei wely tua unarddeg.

Pan soniodd Nhad wrth John Roberts, sef tad Jac Wiliam am y peth, dywedodd hwnnw ei fod yno ryw noson yn cau'r ffenestri gan mai fo oedd yn gofalu am y tÅ· pan fyddai'n wag.

Pan aeth i'r neuadd fawr gwelodd wraig mewn dillad coch tywyll, ac aeth ar ei hôl ond diflannodd drwy wal y Parlwr Coch, fel gelwid yr ystafell neilltuol honno.

Pantri

Yn y cyfnod yma roedd fy chwaer a Katie Rhos Ddu ac Annie Glandwr, Llangybi Station, yno yn gweithio, a hefyd yr howscipar, Patty Roberts.

Mi fyddai'r merched yn cysgu yn y cefn a chyn cysgu am ddeg o'r gloch bob nos tasg Katie oedd mynd i lawr i roi'r "main switch" i ffwrdd, a chodi'r bore tua chwech i'w roi mlaen.

Pan ddaeth i lawr un noson daeth dyn mewn gwisg ddu i'w chyfarfod â'r waelod y grisia a phan aeth Katie ar ei ôl i'r gegin aeth am y pantri a diflannu drwy'r wal.

Aeth Katie i'w gwely ond soniodd hi ddim am y peth wrth neb.

Digwyddodd hyn bob nos am tua wythnos cyn iddi sôn wrth Madge am y peth, ac aeth y ddwy i lawr y noson honno ond wnaeth y dyn ddim ymddangos, ac yn wir welwyd mohono byth wedyn.

O edrych, canfyddwyd fod drws wedi bod yn y wal honno yn y pantri a arweiniai i'r Parlwr Coch, lle diflannodd y ddynes a welodd John Roberts.

Brawd

Cafodd Wil fy mrawd brofiad go ryfedd hefyd. Roedd hyn ar ôl i Mrs Lewis farw a Miss Lewis yn dal i fyw yno.

Roedd Wil yno'n paentio wal y gegin ar ôl cinio ar brynhawn braf a neb arall ar gyfyl y lle.

Aeth i gefn y tŷ a chloi'r drws ar ei ôl. Dyna oedd yr arfer ¬pan fyddent yn gwneud gwaith a neb arall yno, sef, rhoi clo ar ddrws y cefn a'i ateb os oedd rhywun yn curo neu ganu'r gloch.

Wedi bod yn paentio am sbel clywodd sŵn cerdded yn dod i'r gegin o gyfeiriad y drws cefn a galwodd fod y teciall yn berwi am baned, gan feddwl mai Miss Cartwright, yr howscipar, oedd wedi dod yn ôl yn gynnar, ond ddaeth neb i'r gegin.

Aeth Wil lawr o'r ysgol i edrych pwy oedd yno a mynd at y drws cefn ond yr oedd hwnnw'n dal ar glo, a chafodd dipyn o fraw.

Daeth fy nhad draw toc i weld sut roedd pethau'n mynd ymlaen ac wrth basio ffenest y servants hall ger y drws cefn gwelodd ddynes yno mewn dillad tywyll a het ar ei phen a meddyliodd fod Miss Cartwright wedi dod yn ôl yn gynnar ond fel arfer y fo fyddai'n mynd i'w nol rhwng 4.30 a 5.00 o'r gloch.

Aeth i'r tŷ ar ôl i Wil agor iddo a gofyn lle roedd Miss Cartwright.

"Tydi hi ddim yma eto;" medda Wil, "chi sydd fod i'w nhol hi".

Dywedodd fy nhad ei fod wedi ei gweld drwy'r ffenest ag aethant ill dau i'r ystafell arall ond doedd neb yno, a neb wedi bod yno chwaith, yn ôl bob golwg .

Fe welodd Wil a fy nhad bethau wedyn a chlywed hefyd ond doeddent ddim yn poeni llawer fel yr ai amser ymlaen.

Roedd Jac fy mrawd a minnau yn teimlo'n wahanol iawn i hynny.

Doedd Jac ddim yn gysurus yno byth, na finnau chwaith. Roedd rhyw awyrgylch rhyfedd o gwmpas y lle i ni ein dau.

Llofruddiaeth

Arferai Mrs Lewis gynnal partion o gwmpas y Nadolig i weithwyr y plas a'r tenantiaid, a chael côr merched Cricieth i ganu, a chaem noson ddifyr iawn a phawb yn gwneud ei bwt.

Byddai Mrs Lewis wrth ei bodd yn mwynhau'r cwbwl cystal a neb (roedd hi'n deall Cymraeg ond ddim yn ei siarad.)

Ar ddiwedd y noson fe ddeuai ei thri hi i roi ei "pharti pîs" hi ei hun, a'r un peth geid bob tro - adroddai hanes mwrdwr yn y plas flynyddoedd maith yn ôl. Rhywbeth yn debyg i hyn oedd yr hanes.

Daethai gŵr y plas adref o'i drafel o gwmpas y wlad heb ei ddisgwyl a dal y wraig a'r bwtler gyda'i gilydd.

Rhedodd gŵr y plas ar ei ôl i un o stafelloedd yr atic a'i ladd yno.

Mae rhywbeth tebyg i waed i'w weld ar y llawr ar hyd y blynyddoedd.

Ar ddiwedd y stori gwaith fy nhad wedyn oedd arwain y gwesteion i fyny i 'r atic i weld y staen a chael tipyn o ias y stori.

Do, fe glywais y stori lawer gwaith gan Mrs Lewis, ond hyn sy'n rhyfedd.

Pan ddaeth y Prifardd Elwyn Roberts yno gyda chriw S4C rai blynyddoedd yn ôl fe aeth i mewn i drans ac fe welodd yr union ddigwyddiad a adroddai Mrs Lewis air am air, er nad oedd o erioed wedi cyfarfod Mrs Lewis na chlywed sôn am y lle o'r blaen.

Roedd sôn bod rhywun wedi cael ei ladd yn y bothi hefyd.

Tybed ai sŵn traed hwnnw yn dwad ar hyd yr iard gefn nos glywodd fy nhad pan oedd yn y gweithdy?

Bum yn cerdded o TÅ· Lon wedi bod yn gweld fy ffrind, Grace, laweroedd o weithiau yn ystod y blynyddoedd rhwng bod yn 9 a 18 oed. Awn trwy iard gefn y plas ac i lawr y llwybr uwchben yr afon at y bont a hynny ar nosweithiau tywyll iawn a theimlais i erioed ofn y tu allan i'r tÅ· o gwbwl, ond mi wn un peth - 'dawn i ddim yno heddiw!

Ysbryd Trefan

Tua diwedd y pedwar degau yr oedd Mrs Mona Jones o Lanystumdwy yn mynd i lanhau'r tÅ· yn Nhrefan.

Ar rai boreau fe fyddai Arfon y mab yn mynd gyda hi.

Roedd tua un ar bymtheg oed a chai'r gwaith o lanhau llwybrau a chwynnu a thacluso o gwmpas y tÅ· a 'sgubo'r lawnt a phethau felly.

Ar y ffordd adre un diwrnod fe alwodd y ddau yn y tÅ· efo mi.

Fe sylwais fod golwg braidd yn rhyw lwydaidd ar Arfon, a dyma Mona ei fam yn dweud, "Deuda wrth Lora be welis ti heddiw yn Trefan."

Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd mawr, ond hanes rhyw anifail gwyllt neu dderyn anghyffredin roedd o wedi ei weld yn y gerddi.

Ond dyma Arfon yn dechrau ei stori ac yn bur nerfus erbyn hyn.

"Roeddwn i'n sgubo'r lawnt yn ffrynt y tŷ ac fe roeddwn i'n teimlo fod rhywun yn fy ngwylio ac edrychais i fyny i ffenast y llofft ffrynt uchaf ac roedd yno ddyn mewn siwt wen a locsyn bach pigfain a phen fel ŵy ganddo a sbectol fawr a dau lygaid mawr treiddgar yn rhythu arnai."

"0", medda finnau, "yr hen Theobald oedd hwnnw."

"Argol," medda Arfon, "dach i'n i nabod o?"

"Mi roeddwn i un tro, Arfon bach," medda finnau, "ond mae o wedi marw flynyddoedd lawer cyn dy eni di."

Wel os oedd o wedi dychryn cynt 'roedd o wedi dychryn mwy wedyn.

Tua chanol y pedwar degau y bu farw yr hen Theobald a bu ei ferch fyw yno ar ei ôl.

Mae na ambell i stori yn cael ei hadrodd gan sgotwrs nos am weld dyn mewn siwt wen yn ymddangos iddynt ar lan yr afon, ond chlywodd Arfon 'rioed mo hynny.

Roedd o yn rhy ifanc.

Ond yn ei siwt wen y cofiaf i'r hen Theobald, a'i sbectol fawr a'r llygaid treiddgar, a'r pen moel, a'r llais fel corn Enlli.

Fe'i clywech ymhell cyn ei weld.

Byddai'n galw yn yr ysgol pan oeddwn yno yn y tridegau ac fe'i gwelais droeon.

Rhyfedd i Arfon gael ei weld hefyd, ynte? Lora Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý