91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Y Scania newydd WM5 4 WMS
Mehefin 2005
Mae Meurig Owain Jones, Melin Plas Du wedi cael lori newydd, Scania bwerus a gostiodd dros £100,000.
'Does mo'i thebyg yn unman yng Nghymru na'r Alban nac Iwerddon. Yn wir, nid oes ond un 'lori arall o'i bath yng ngwledydd Prydain benbaladr. Yn Nyfnaint mae'r llall.

Yr hyn a'i gwna yn arbennig yw fod arni offer i dorri tyfiant ar ochrau'r ffyrdd, gyda bôn y cloddiau, fel y gwnâi hen lengthmyn y Cyngor Sir erstalwm efo rhaw.

Gwnaed y lori ei hun yn Sweden, y brwsus a'r sugnwr baw yn Dorking, Swydd Surrey a'r gyllell gron i dorri'r tyfiant yn Denmarc. Mae'n dal saith tunnell yn ei chrombil.

Gweld fod mawr angen cymhennu ochrau'r ffyrdd a wnaeth Meurig - fel pawb ohonom, bid siŵr - a mentro prynu'r lori fel y gallai gynnig gwasanaeth i gynghorau sir neu stadau preifat.

Gyda dyfodiad y Scania newydd y mae ym Melin Plas Du wyth o lorïau yn awr a chyflogir yno un-ar-ddeg o weithwyr. Gwelir y lorïau yn cario sgipiau ac yn sgubo a thrwsio ffyrdd draw am ochrau Caer a Chaergybi ac i lawr am Dywyn, Meirionnydd.

Pan welwch y lori newydd byddwch yn siŵr o'i hadnabod ar drawiad. Mae llun Draig Goch fawr yn dal brws ar ei hochr, ac mae arwyddocad hefyd i'r rhif cofrestredig. M.OJ. rhywbeth neu'i gilydd yw rhifau amryw byd o gerbydau Melin Plas Du, ond 'adlewyrchu enw'r busnes "Williams a Williams" a wna WM5 4 WMS.

Tri mab Meurig ac Angela sydd yn y llun.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý