Y gwr tu ôl i'r fenter ar y cyd â Gwen Vaughan Jones, Cefn Gwyn yw Ian Van Temperley sy'n hanu o sir Gaer ond sy'n byw bellach yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Gwneud styntiau ar gyfer ffilmiau a theledu a chystadlu mewn gornestau paffio fu ffon ei fara ers blynyddoedd. Ef oedd pencampwr Paffio Thai drwy Ewrop gyfan yn 1993. Daw rhai o'r marchogion eraill o Ffrainc a'r Is-Almaen. Y mae un-ar-ddeg yn y criw i gyd, pump o farchogion a chwech arall yn paratoi'r maes a gofalu am ddiogelwch ac ati. Daw'r sioe i Gefn Gwyn yn sgil cyfarfyddiad Ian a Gwen Vaughan Jones merch y fferm, mewn arddangosfa yn Rhydychen. Mae Gwen yn aelod o Gymdeithas Ganoloesol Harlech sy'n teithio ledled Prydain i ail-greu hen weithgareddau fel ymladdfeydd cleddyfau. Ymdrin â cheffylau yw ei hoff ddiddordeb. O Goleg Amaethyddol Glynllifon aeth i'r Brifysgol ym Mangor ac ennill gradd HND mewn astudiaethau ceffylaidd, cwrs sy'n cynnwys llawer agwedd megis bioleg a geneteg a busnes yn ogystal ag astudiaeth o'r anifeiliaid. Hoffai Gwen ddiolch yn fawr i bawb a fu'n gefnogol i'r fenter ac a fu'n cynorthwyo mewn amrywiol ffyrdd ac mae Ian a hithau yn ymddiheuro fod y posteri, trwy amryfusedd, wedi eu hargraffu yn Saesneg. Bydd y sioe gyntaf yng Nghefn Gwyn nos Fercher 28 Mai am chwech o'r gloch a phob nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau o hynny ymlaen.
|