91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Enid Roberts Yr ardd heddwch
Rhagfyr 2008
Bedair blynedd yn ôl derbyniodd Mrs Enid Roberts, Glanddol, ddarn o frodwaith wedi ei bwytho gan wraig o Bosnia.

Roedd hi'n falch iawn o'i gael gan iddo fod yn rhan o brosiect i gynorthwyo merched i ddatblygu sgiliau a menter mewn busnesau bychain i'w cynnal eu hunain a'u teuluoedd ar ôl yr holl ryfela.

Mae Mrs Roberts yn aelod o fudiad byd-eang - Y Soroptimistiaid Rhyngwladol - sydd yn gweithio dros heddwch ac iawnderau dynol.

Ar funud wan dywedodd Mrs Roberts; "Mi bwythaf innau ddarn o waith i chwi hybu'r achos" heb feddwl am y problemau o'i blaen.

Araf iawn fu'r ysbrydoliaeth i gychwyn arni, misoedd yn mynd heibio heb symud gan fod cymaint o agweddau gwahanol i'r gair 'heddwch'.

Ar wyliau yn yr Iwerddon gyda Dafydd fe ddatblygodd pethau. Ar fore rhydd dywedodd Dafydd: "Beth am aros yn y gwesty a'r ardd. Mae'n braf iawn allan. Mi wna i ddarllen a chewch chwithau bwytho?" A dyna fu - diwrnod tawel, hyfryd.

Colomendy

Ar fryncyn yn yr ardd roedd colomendy hardd, gwyn a phinc, gyda chriw o golomennod gwynion yn cartrefu ynddo.

Roeddynt newydd gyrraedd ychydig ddyddiau ynghynt ond yn cael eu caethiwo oddi tan weiran neting rhag ofyn iddynt hedfan i ffwrdd. 'Roeddynt i'w gweld yn eithaf bodlon yn sibrwd a chwan yn dawel ymysg ei gilydd.

Yn y cefndir 'roedd sŵn afon yn byrlymu tros raedr bychan - "Gwesty'r Rhaeadr" (Falls Hotel) oedd enw'r lle, sef hen fanordy a fu'n gartref i Caitlin Thomas, gwraig Dylan Thomas, y bardd, a'i theulu. 'Roedd y cyfan yn creu awyrgylch hyfryd a heddychlon.

Gyda'r blodau lliwgar yn gorlenwi border yr ardd, y rhaeadr a'r colomendy roedd yma restr o bethau addas ar gyfer y dyluniad.

Gorchfygwyd y problemau drosglwyddo'r dyluniad i'r ffabrig drwy chwistrellu paent yn ysgafn fel cefndir, gwneud y colomendy o gardfwrdd, a'i chwipio gyda phwythau. Yna defnyddio clipiau papur cryfion ar gyfer yr obelisg i gynnal y rhosod melyn. Mae'r lliwiau glas a melyn yn amlwg iawn - lliwiau'r Soroptimistiaid.

Dewiswyd pwythau addas i gynrychioli'r gwahanol fath o flodau. Symbolau ydynt i chwi gael dychmygu yr ardd yn eich meddwl. Mae amrywiaeth o edeuon o liwiau gwahanol wedi eu defnyddio - pob lliw yn wir ond coch llachar, sef lliw gwaed a rhyfel.

Mae'r pedair colomen wen (colomennod heddwch) yn cynrychioli'r pedair ffederasiwn yn y mudiad drwy'r byd. Mae'r hefyd, rhai gynrychioli'r colomendy.

Cefnogi Sierra Leone

Bydd y gwaith yma yn mynd i gefnogi prosiect Sierra er budd plant mewn angen difrifol yn Sierra Leone, sydd wedi dioddef cymaint oherwydd rhyfela.

Partneriaid y Soroptimistiaid yn y fentr hon yw mudiad 'Hope and 91Èȱ¬s for Children', a hwy fydd yn gweithredu yn y wlad i godi cartrefi, ysgolion a chanolfannau iechyd yn y gobaith o roi cychwyn ar fywyd dan well amgylchiadau.

Aeth llawer o feddwl ac oriau o waith pwytho a llaw i greu'r dyluniad sy'n rhyfeddol o gain.

Mae Mrs Enid Roberts wedi mentro hefyd i gael cardiau ysgrifennu wedi eu cynhyrchu gan gwmni lleol, a gobeithio y bydd eu gwerthiant yn cynhyrchu rhagor o elw i hybu'r fentr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý