Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn a gwelwyd 31 o dractorau yn ymgynnull, rhai yn sgleinio mwy na'i gilydd ond pob un yn troi fel watch! O Chwilog aeth y criw i fyny'r pentref i gyfeiriad y Ffôr ac wedyn ei gwneud hi tua Mynydd Nefyn lle cafwyd hoe fach a chyfle am banad a sgwrs. Roedd y daith ar ei hyd tua 22 milltir.
Wedi dychwelyd i Chwilog cafwyd noson dda yn y Madryn a llwyddwyd rhwng raffl a phopeth i gasglu'r sŵm anrhydeddus iawn o £1200. Mae'r arian yn dal i ddod i mewn. Dymuna'r trefnwyr ddiolch o galon i bawb a gymrodd ran ac a gefnogodd yn unrhyw ffordd a diolch arbennig i Gwen, Cefn Gwyn am dynnu'r holl luniau. Mae modd cael copi o luniau am bris rhesymol.
Bydd yr elw yn mynd at elusennau lleol ac at ymchwil cancr y fron.
Tu ôl i lyw un o'r tractorau y diwrnod hwnnw yr oedd Gareth Williams o Bwllheli - neu Gaga Wimp i'w lu cyfeillion yn Eifionydd. Wedi chwip o barti ffarwel yn Nhafarn y Madryn, teithiodd Gags gyda Dafydd Hughes, Bron Eifion, Cricieth, i Seland Newydd i yrru peiriannau ar wahanol ffermydd yno. Byddant yn dychwelyd i Gymru yn y gwanwyn - mwynhewch yr antur hogia!
|