91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Mynd am dro Gŵyl Ddewi
Mawrth 2009
Gwnewch y pethau bychain pwysig oedd yr ysgogiad i bawb ohonom wrth ddathlu'r ŵyl unwaith eto eleni.

Gwnaed hynny yn anrhydeddus mewn sawl dull a modd - gwasanaethau a chyngherddau yn eglwysi a neuaddau'r fro, amrywiaeth o weithgareddau yn ein hysgolion, ambell i swper yma ac acw ... a beicwyr y Llan yn cerdded?

le, dyna chi, dan arweiniad y ddau sherpa, Elis Gwyn ac Anna Wyn, aeth tua dau ddwsin ohonom (yn oedolion a phlant) a thri ci i grwydro'r ardal i ddathlu'r -ŵyl.

A haul cyntaf Mawrth yn ein cyfarch, troediwyd llwybr o'r pentref heibio stad urddasol Plas Hen, ar hyd llonydd gorffenedig y Lon Goed, i lawr i gapel rhyfeddol Gallcoed, cyn croesi'r Ddwyfach a dychwelyd heibio Plas Gwynfryn.

Roedd pawb yn awchu i wlychu pig a chael tamaid i'w fwyta ar ôl cerdded am dros ddwy awr a chawsom groeso arbennig gan dafarnwr llon Y Plu a'i wraig! Ym mwrlwm y sgwrsio cafwyd cyfle i iro sawl dolur!

Gobeithio'n wir y bydd Gŵyl Ddewi 20I0 yn wyliau swyddogol trwy Gymru benbaladr, ond os na, gallwn eich sicrhau bydd beicwyr Llan'stumdwy wedi trefnu taith arall i adnabod y filltir sgwâr yn well!

"Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan. "

R. Williams Parry

Brian Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý