Mac Efa Glain yn un o'r rhai ffodus hynny, yn wir mac gan y ferch fach bedair wythnos oed saith o neiniau!
Yn anwesu Efa yn y darlun gwelir ei hen, hen nain - Muriel Jones, 88 oed, sy'n wreiddiol o Dinas, LlÅ·n, ond yn ymgartrefu bellach ym Mhlas Hafan, Nefyn.
Ar y chwith iddi y mac Elizabeth Jones, Ynys Goch, Sardis (merch Mrs Muriel Jones).
Yn sefyll tu ôl iddynt y
mae Eirian Evans, Llystyn Isaf, Bryncir - merch Elizabeth; ac ar y dde y mae Nia Mai Evans (merch Eirian a mam Efa) sy'n byw yn Nefyn gyda'i chymar Darel.
Hen neiniau eraill y fechan yw Elen Evans, Melin Llecheiddior, Bryncir, a Netta Williams a Gwen Hughes, ill dwy o Nefyn. Yn Nefyn mae'r nain arall yn byw hefyd, sef: Roberta Hughes, mam Darel.
Ganed Efa am 8.04 yr hwyr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar 24 Hydref
yn pwyso 7 bwys a thair owns.
Mae cael pum cenhedlaeth yn achlysur anghyffredin, ond mae cael pum cenhedlaeth o ferched yn anghyffredin tu hwnt.
Croeso cynnes i'r fechan a llongyfarchiadau i'r neiniau a'r teulu ôll.
|