Ar ôl 36 mlynedd tu ô i'r cownter caeodd Elisabeth Hughes y drysau'n derfynol nos Sadwm 28 Awst. Bydd yn chwith sobr colli'r hwylustod o bicio i siop o fewn cyrraedd, a cholli gwên a chymwynasgarwch y perchennog.
Daeth Elisabeth i'r siop wedi i'w modryb a'i phriod, Jane a Goronwy Parry, ymadael yn 1973 ar ô 23 mlynedd yno. Cyn hynny perthynai'r busnes i gwmni cydweithredol lleol - y Co-op - gydag asiantaeth y post yn enw William Jones, ysgrifennydd Amaethwyr Eifionydd a rheolwr/rheolwraig yn gofalu am y siop.
Yn rheolwyr yn eu tro bu Nathan Thomas o Gricieth, O.J. Roberts o Fryncroes (y gŵr a arweiniai'r canu ar y traeth yng Nghricieth, gynt), Griffith
Williams (tad y Parch John Wyn Williams, Hen Golwyn) Jane Catherine Owen (Jones wedi hynny, mam Alun Llên
Llyn) a Nansi Thomas o Lithfaen.
Cyn dyddiau'r Co-op cedwid y siop gan Letitia Griffith, mam Tal Griffith, y cyfrifydd ac arweinydd Côr Glannau Erch erstalwm.
Ar ôl gadael yr ysgol bu Elisabeth am gyfnod yn gweithio yn labordy y ffatri laeth yn Rhydygwystl ac yna mewn tair swydd ym Mhwllheli - yn gweinyddu yng Nghaffi Bodawen ar y gornel, yn clercio a gwerthu petrol yn garej Russel ac am 12 mlynedd yn siop Wellfield gyferbyn â'r Post Mawr.
Dywed Lis, sy'n 67 oed, iddi fwynhau ei blynyddoedd yn siop Pencae yn fawr iawn.
Bydd yn chwith ganddi golli'r gwmnïaeth ac yn arbennig syniadau a dywediadau gwreiddiol y plant.
Yn werthfawrogiad o'i gwasanaeth a'i chyfeillgarwch cyflwynwyd anrheg iddi gan yr ardalwyr.
Er bod y siop wedi cau y mae Ifan Garej Llanaelhaearn, brawd Elisabeth, yn ymorol fod pawb a'u myn yn dal i gael eu papurau newydd yn lleol.
|