Mae ganddo ef reswm deublyg dros fod yno.
Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonom yma yn Eifionydd y mae Arwyn yn ddyn canu hyd. flaenau ei fysedd, ond yng nghyswllt y Faenol y mae hefyd yn un o'r pedwar sioffer rheolaidd sy'n cludo'r cantorion byd-enwog o le i le.
Eleni, ef oedd y gyrrwr i Andrea Bocelli a'i gymar Veronica. Golygai eu nôl o faes awyr Lerpwl a'u cludo i'r ymarfer yn y Faenol. Yn ôl yr arfer bu a hwy o gwmpas yr ardal hefyd pan oedd ychydig hamdden.
Y dyddiau canlynol cludai eraill i'w hymarferion yn y Galeri yng Nghaernarfon neu Neuadd Pritchard Jones ym Mangor.
Y teithydd byd-enwog dan ofal Arwyn y llynedd oedd Desiree Rancatore, y gantores o Sicilia. I faes awyr Heathrow y daeth hi. Ymysg eraill y bu'n sioffer iddynt y mae Hayley Westerra o Seland Newydd, Denyce Graves o America, y Wyddeles Erin Wall, Leslie Garrett o Swydd Efrog a gosgordd Jose Carreras, y tenor o Barcelona, ond nid y dyn ei hun,
ysywaeth. "Pobl glên, hollol ddiymhongar" meddai Arwyn amdanynt i gyd.
Aros adref efo'r wraig a'r plant yn y Bontnewydd y bydd Bryn Terfel, wrth gwrs. Er i Bryn fod yn aelod o'i gôr yn hogyn yn Ysgol Dyfftyn Nantlle, ni ddeuai cyfle i Arwyn fod yn sioffer iddo er, p'run bynnag. Mae gan Bryn ei yrrwr rheolaidd pan fo'i angen, sef ei gyfaill Aneurin Parry o Benygroes a oedd hefyd yn aelod o'r un côr yn yr ysgol.
Un o ddymuniadau Andrea Bocelli ar daith "i flasu'r amgylchedd" eleni oedd mynd i dafarn lle clywid Cymraeg - i gael coffi. Er culed y strydoedd i'r Merc aeth Arwyn ag ef i'r Black Boy yng Nghaernarfon. 'Roedd y tenor wrth ei
fodd. Cafodd y rheolwr ei lofnod hefyd ac roedd am ei fframio, debyg iawn. Swynwyd Bocelli gan hyd a sain enw LIanfairpwllgwyngyll. Yn ogystal â'i adrodd canodd Arwyn yr enw iddo ar Dôn y Botel a ddysgodd gan ei nain ar yr hen eiriau "Mam ddaru fy nghuro i".
Yr hyn y dotiai Veronica ato fwyaf oedd gwyrddlesni'r wlad ar bob llaw. Prin bod eisiau manylu mai'r un yn sefyll yn y canol yn y llun yw Arwyn. Nid ydyw wedi gwyro chwaith!
D.E.
|