91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Elen Gwynne Codi cwr y llen
Ionawr 2004
Elen Gwynne, Bryn Beuno, Cricieth yw'r actores ifanc sydd yn codi cwr y llen ar rai o'i phrofiadau ym myd actio y tro hwn. Erbyn hyn mae wyneb Elen yn un cyfarwydd iawn i'r mwyafrif ohonom a gobeithio'n wir y bydd yn parhau felly.
Yn wahanol i lawer o'm ffrindiau, 'roeddwn i'n gwybod yn union be oeddwn i eisiau'i wneud o ran gyrfa, ers pan o'n i'n ifanc iawn. Rydw i wastad wedi bod yn un am ddangos fy hun, boed hynny drwy arddangos fy sgiliau acrobatig ar y ffrâm ddringo o flaen y camera fideo, neu'n syml drwy floeddio'n uwch na'r plant eraill! Efallai gall yr enghreifftiau yma esbonio atyniad, a hudoliaeth y byd perfformio i mi.

Yr atgof cynharaf sydd gennyf o berfformio, yw o fod yn saith oed, ac yn ddisgybl yn Ysgol Treferthyr yng Nghricieth. Penderfynais gasglu llond llaw o blantos parod (ffrindiau fy mrawd yn bennaf), gyda'r bwriad o gynhyrchu drama i'w pherfformio o flaen gweddill yr ysgol. Penodais fy hun yn ddramodydd, yn gyfarwyddwr ac yn actor, ac yna dechrau ar y gwaith.

Ymhen 'chydig wythnosau, pan oedd y campwaith yn barod, caniataodd y prifathro i bawb ddod i'w weld, a phawb yn talu 10c! Wrth gwrs, roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol!

Fel plentyn, 'roeddwn hefyd yn mwynhau cystadlu mewn Eisteddfodau. Yn flynyddol, byddai Eisteddfod Cricieth yn cynnig tarian i'r sawl oedd wedi ennill y mwya' o bwyntiau, wrth roi tro ar y cystadlaethau. Pan yn 11, wedi rhoi fy mryd arni ers blynyddoedd, enillais y darian (ond rhaid ychwanegu nad am dalent oedd hynny, ond yn hytrach am imi drio pob cystadleuaeth bosib).

Parhaodd fy niddordeb ym myd y perfformio wrth imi fynychu Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, Coleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, ac ymlaen wedyn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, i astudio am radd mewn actio. Yno cefais gyfle i ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar actio, gan astudio pob agwedd o'r grefft gan gynnwys gwersi llais, canu a dawns. Credaf i'r cyfnod yma a dreuliais yn y coleg fod o fudd mawr imi, ac yn sail bendant ar gyfer gyrfa yn y maes. Mwynheais pob eiliad o fy amser yno.

Daeth fy nghyfle cyntaf o swydd broffesiynol tra yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg, wrth gael cynnig rhan y cymeriad 'Lisa' mewn addasiad o'r nofel Y 'Stafell Ddirgel', ar gyfer y teledu. Gan y coleg oedd y gair olaf parthed derbyn gwaith proffesiynol a'i peidio, a phe cymerwn y swydd, golygai golli fy mhedwar mis olaf yn y coleg.

'Roedd pob actor yn cael wig newydd sbon danlli wedi'i greu yn arbennig iddynt, er mwyn sicrhau ffit perffaith, a chredadwy. Golygai hyn eistedd mewn cadair, tra'n cael cling ffilm wedi'i lapio rownd fy mhen, er mwyn creu cap, a chael mowld perffaith o mhen! Profiad newydd a dweud y lleia'. Ymlaen wedyn i 'stordy dillad "Angels" - cwmni sy'n llogi dillad o bob cyfnod, ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu. Yma roedd rhaid dadwisgo, a gwario oriau yn trio staes ar ôl staes, sgert ar ôl siaced, er mwyn adeiladu casgliad o ddillad i'r cymeriad.

'Roedd cychwyn ar y gwaith ffilmio fel cymeryd naid i'r tywyllwch. Roedd rhaid dysgu'r dechneg o actio ar gyfer y sgrin, o'r newydd, ac roedd hyn yn anodd ar brydiau, gan iddo fynd yn erbyn yr hyn a ddysgais yn y theatr. Yn aml, atgoffwyd fi nad oedd rhaid gweiddi, gan bod y microffon yno i'm helpu, ac nad oedd angen tynnu ystumiau, gan fod y camera, ac felly'r gynulleidfa, yn agos iawn ataf, ond buan iawn mae rhywun yn addasu.

Wedi graddio, mi es i weithio i'r siop - Gwalia Stores hynny yw! 9 tan 9 oedd y gyfres, a Iona Huws oedd y cymeriad - merch annwyl iawn, ond dim llawn llathen! A dweud y gwir, cyhuddiad cyson gan aelodau eraill o'r cast oedd nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngof fi a Iona! Efallai mai cadarnhau y cyhuddiad wnaiff y ffaith nad oedd angen trip i Lundain er mwyn chwarae Iona, ond yn hytrach, dim ond gwisgo pâr o drowsus diddorol a/neu gyffyrddus, a sbectol las, i gyflawni'r trawsnewidiad! Mater o farn yw hyn wrth gwrs, ond beth sydd yn sicr yw'r ffaith imi fwynhau'r gweithio ar y rhaglen yn fawr iawn.

'Roedd yr ymateb a gawsom i'r gyfres yn galonogol iawn, ac mae'r ffaith imi glywed y dywediad "Ffor Fish Cêcs!" yn cael ei ailadrodd yn aml gan aelodau o'r cyhoedd, yn brawf o'i phoblogrwydd! Cyngor a gynigir i actorion ifanc yn aml iawn yw i beidio a gweithio gyda phlant nac anifeiliaid. Wrth gymryd rhan yn y gyfres Tipyn o Stad anwybyddais y ddau.

Rhoddodd Tipyn o Stad y cyfle imi weithio ar brosiect mwy hir dymor, ac yn sgîl hynny y cyfle i fynd o dan groen cymeriad. Sialens oedd portreadu Susan, gan ei bod mor wahanol i mi (gwaith trip neu ddau at y cynllunydd gwallt yng Nghaer, gyda llaw, ydi'r gwahaniaethgweledol sydd rhyngom, sef y sdrîcs gola' yn fy ngwallt).

Er ei phroblemau diddiwedd, y strach a'r helbul sy'n ei dilyn byth a beunydd, ac er y byddaf yn aml yn gadael fy ngwaith wedi llwyr ymladd, cymeriad annwyl iawn yw Susan yn y bôn, ac mae'n bleser ei phortreadu.

Teimlaf yn ffodus ac yn ddiolchgar iawn mod i'n gallu ennill fy mara menyn mewn ffordd sy'n dod â chymaint o foddhad imi. Yr unig beth allai obeithio amdano at y dyfodol yw digon o waith!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý