Asiantaeth gastio actorion a pherfformwyr yw Spotlight sydd yn dyfarnu gwobr yn flynyddol i ddau fyfyriwr nodedig sydd newydd raddio o golegau drama ledled Prydain. Enwebir dau fyfyriwr un dyn ac un ferch, ar gyfer y gystadleuaeth gan benaethiaid pob sefydliad sydd yn perthyn i'r Conference of Drama Schools, ac o blith y rheini y dewisir y ddau enillydd. Siôn, a raddiodd yn gynharach eleni o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, a Tanja Pilcher o'r East 15 Acting School oedd yr enillwyr eleni. Mae'r ddau yn derbyn gwobr o £2500 yr un yn ogystal â chael cynnwys eu henwau ar restr actorion Spotlight sydd bellach yn ymddangos ar y Rhyngrwyd ac ar ffurf llyfr ac yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau teledu, ffilm, radio a theatr ym Mhrydain a rhai mewn gwledydd eraill. Fel y nodwyd yn y gorffennol ar dudalennau'r Ffynnon, mae Siôn yn prysur ennill ei blwyf fel actor llwyddiannus, ac ymddangosodd yn ddiweddar yn y ddrama Hobson's Choice yn Theatr Clwyd. Fe'i gwelwyd hefyd mewn pennod o Casualty a ddarlledwyd nos Sadwrn 13 Tachwedd. Llongyfarchiadau Siôn ar ennill y wobr ddiweddaraf hon, a phob llwyddiant yn y dyfodol.
|