Y maent hwy, ynghyd â Tony Vowell, Swyddog Coed ardal Dwyfor a Pryderi ap Rhisiart y Swyddog Adfywio Bro wedi bod wrthi'n ddiweddar yn ymdrechu i gael arian o wahanol gronfeydd er mwyn gallu sicrhau y bydd y Lôn Goed yma am flynyddoedd eto i ddod gobeithio.
O'r diwedd ymddengys bod eu gwaith yn dwyn ffrwyth gan i Gyngor Chwaraeon Cymru yn ddiweddar roi'r cymhorthdal llawn o £20,000 i gychwyn ar y gwaith. Yn ôl y Cynghorydd Margaret Griffith yr oedd y Cyngor Chwaraeon yn sylweddoli gwerth y Lôn o ran y posibiliadau yr oedd yn eu cynnig ar gyfer hyrwyddo cymunedau iach.
Wrth gwrs, yn y dyddiau sydd ohoni fydd £20,000 ddim yn mynd yn eithriadol o bell ond gobeithir y bydd yn ddigon i ddechrau ar y gwaith o roi wyneb newydd ar ambell ran o'r Lôn, sicrhau y bydd gatiau yn agor yn rhwydd, gwella terfynau ac yn y blaen. Y mae Pryderi hefyd wedi cyflwyno cais i'r Loteri Dreftadaeth gan obeithio cael mwy o gyfraniad at y gwaith.
Yn y cyfamser y mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda pherchnogion y tir oherwydd y mae'n bwysig cofio, er ein hod yn tueddu i feddwl am y Lôn Goed fel rhyw adnodd cenedlaethol, mewn gwirionedd ffordd ydyw sydd yn rhedeg trwy ganol tir preifat.
Yn ôl y swyddogion y mae pawb y buont mewn cysylltiad a hwy wedi dangos diddordeb mawr yn y cynlluniau; ambell un wedi awgrymu syniadau da iawn a phawb yn unfryd fod gwerth mawr mewn cadw'r Lôn ar gyfer yr oesoedd a ddel.
|