91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Owain Arthur Un o'r 'History Boys'
Tachwedd 2006
Gwelwyd actor ifanc a chanddo gysylltiadau agos a Llanaelhaearn yn troedio'r llwyfan yng nghynhyrchiad hynod boblogaidd y National Theatre o ddrama Alan Bennett - 'The History Boys'.
Roedd yn perfformio yn Venue Cymru, Llandudno fis Hydref.

Magwyd Owain Arthur, sy'n 23 mlwydd oed, ym mhentref Rhiwlas ger Bangor, ond un o Lanaelhaearn yw Eleri, ei fam. Yn ferch i'r ddiweddar Phyllis Goodwill, Becws Glanrhyd gynt, mynychodd Eleri ysgol y pentref ac Ysgol Glan y Mor, Pwllheli.

Erbyn hyn mae Eleri ac Eurwyn, ei gŵr, yn byw yng Nghaernarfon ac Eurwyn, bellach, sy'n rhedeg Becws Glanrhyd. Edwards yw cyfenw'r teulu, ond bu'n rhaid i Owain newid ei enw proffesiynol, gan fod rhywun arall o'r un enw eisoes yn perthyn i Equity.

Mae Owain yn fwy adnabyddus i ni yma'n Eifionydd fel y cymeriad Aled ar 'Rownd a Rownd'. Bu'n actio yn y gyfres (sy'n cael ei chynhyrchu gan Robin Evans, Gwyddfor, Pencaenewydd gynt) am 9 mlynedd cyn cael ei dderbyn i Goleg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain dair blynedd yn ôl. Cyn graddio'r haf hwn enillodd Owain wobr aur am ei waith yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg, ac efallai fod rhai ohonoch yn cofio iddo ennill Gwobr Goffa Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001.

Ymunodd a chast 'The History Boys' ym mis Awst eleni ac ers hynny bu'r cwmni'n perfformio'r ddrama ledled Prydain. Bydd y daith yn dod i ben ddiwedd Tachwedd yng nghanolfan Lowry yn Salford, ond bydd Owain a gweddill y cast yn cychwyn ar gyfnod sefydlog yn Theatr Wyndham's, Llundain o ddiwedd mis Rhagfyr ymlaen.

Lleolir 'The History Boys' mewn ysgol ramadeg yng ngogledd Lloegr yn ystod yr Wythdegau Thatcheraidd, ac yng nghwrs y ddrama dilynwn hynt a helynt wyth o fechgyn chweched dosbarth, wrth iddynt gael eu hysio i lawr y llwybr am Rydychen neu Gaergrawnt gan Brifathro unllygeidiog o uchelgeisiol.

Mae portread Owain o'r cymeriad Timms yn cyfleu brwdfrydedd byrlymus a diflastod llethol yr arddegyn anarchaidd i'r dim. Mewn drama sy'n gyforiog o linellau doniol, mae ei acen Swydd Efrog yn argyhoeddi'n llwyr a'i amseru'n reddfol feistrolgar. Cymer ran flaenllaw yn y 'Wers Ffrangeg' - un o'r golygfeydd digrifaf y mae rhywun yn debygol o'i weld ar lwyfan byth, ac roedd ei berfformiad cadarn yn llwyr haeddu'r gymeradwyaeth wresog a dderbyniodd ar ddiwedd y perfformiad.

Mae'n amlwg y byddwn yn clywed mwy am lwyddiannau'r actor ifanc hwn yn y dyfodol agos. Dymunwn y gorau iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý