Ni olyga hyn mai dyma, o angenrhaid, fydd diwedd y côr ychwaith. Mae sŵn ym mrig y morwydd y gall fod arweinydd newydd yn barod i gydio yn yr awenau. Mae Alwena ei hun yn ffyddiog iawn y digwydd hynny.
Sefydlwyd Côr Gwrtheyrn bedair blynedd ar ddeg yn ôl yn fuan wedi i Alwena, ei phriod Ioan a Siôn, y mab ymfudo i'r parthau hyn o Bontypridd. Anfonodd Alwena lythyr i Lanw Llŷn a'r Ffynnon yn holi tybed a fyddai diddordeb lleol i ffurfio côr cerdd dant. Cyn ymfudo yr oedd hi'n arwain Côr Merched y Garth ym Morgannwg.
Yng nghwrs y blynyddoedd bu Côr Gwrtheym, sy'n cynnwys hanner cant o aelodau, yn llwyddiannus iawn mewn eisteddfodau mawr a bach. Daethant yn ail a thrydydd yn y Genedlaethol, yn gyntaf deirgwaith yn yr Ŵyl Gerdd Dant, ac yn gyntaf yn eu hadran a chipio tlws côr gorau'r Ŵyl yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon.
Bu eu cefnogaeth i eisteddfodau lleol yn gyson iawn hefyd yn ogystal â'u cyfraniadau mewn cyngherddau i hybu gwahanol gymdeithasau.
Bu'r Ffynnon yn holi Alwena: Pam ymddeol? "Rhyw deimlo roeddwn i fod eisiau gwaed newydd," meddai." Mae i bob peth ei gyfnod."
Aberystwyth eleni y sylweddolodd o ddifri' mor sydyn yr â'r amser heibio, a'r plant yn tyfu. Bydd Lois yn ferch, yn dair ar ddeg yr wythnos nesaf. Ai'r côr â llawer o'i hamser, meddai. Ym myd cerdd dant ni fedrai fynd i'r siop i brynu copi o gerddoriaeth, roedd yn rhaid llunio ei gosodiadau ei hun heb sôn am yr ymarferiadau wedyn.
Ar ei hymddeoliad cafodd Alwena lu o gyfarchion, amryw byd ohonynt ar fesur ac odl, gan gynnwys rhes o benillion gan Gwenan Griffith o Langïan. Dyma saith ohonynt:
I Alwena
Daeth lodes o ddyffryn y Banw
I LÅ·n i fyw 'gyda'i theulu
Rhoes hysbys yn y Ffynnon a'r Llanw
'Dwi am gychwyn côr, dewch i gianu!'
A'r merched a ddethant yn rhesi,
Rhai ifanc, rhai hÅ·n a rhai hen,
Rhai tew a rhai tenau, rhai bysti,
Pob un hefo beiro a gwên.
A dyma ddechrau y cianu o ddifri,
Am dylluanod lorwerth P
Ond sŵn gwdihws lenwai'r festri
Ac Alwenna yn gweiddi "gwae fi"
Be wnaeth i mi rioed 'styried
Fod merched y lle ma'n gerddorol
Ma' rhain fatha llond iard o hwyied
Neu gyrn crech neu gribau byddarol"
Ond hefo amser, a lot fawr o chwysu
A dawn ac amynedd Alwena
Fe ddaeth cryn raen ar y canu
A wedyn ffwrdd â ni i 'steddfota.
A'r gwobrau a lifodd i'r coffrau
A chafwyd pob canmol geiriol
A curwyd pob côr yn y parthau,
Wel, pob un ond blydi Côr Seiriol.
A rwan daeth amser ffarwelio
Awn adre at ein gwÅ·r a'n plant
Ond diolch Alwena, am drïo
Ein dysgu i ganu cerdd dant.
Gwenan