Mae'r Parch Deian Evans a'i wraig Annette, fel y gŵyr darllenwyr Y Ffynnon, yn byw bellach yn Nhoronto, Canada, a Deian yn weinidog Eglwys Gymraeg Dewi Sant yn y ddinas. Eleni roedd yr Eglwys yn dathlu canmlwyddiant ei sefydlu a chafwyd penwythnos hir o ddathliadau.
Mi fues innau'n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i fynd draw yno i ddinas braf Toronto i gymryd rhan, ynghyd â Chôr Meibion Cymry Toronto, Côr Meibion Burlington a chôr merched Eglwys Dewi Sant, sef Merched Dewi, yn y cyngerdd arbennig a'r Gymanfa Ganu a gynhaliwyd i nodi'r garreg filltir.
Wyddwn i ddim fod yna gymdeithas Gymreig mor fywiog i'w chael yno. Yn wir, mi ges i agoriad llygad wrth weld y bwrlwm a'r brwdfrydedd ymysg aelodau'r Eglwys. Mae diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn fyw iawn yno a'r Eglwys yn ganolfan nid yn unig ar gyfer addoliad yn y Gymraeg, ond ar gyfer llu o weithgareddau eraill megis dosbarthiadau Cymraeg, ymarferion côr, dawnsio gwerin ac eisteddfodau.
Cefais groeso arbennig iawn gan bawb yno ac roedd hi'n brofiad rhyfedd bod mor bell o gartref a gallu siarad cymaint o Gymraeg! Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd a chyfarfod ambell un o'r pen yma hefyd - fel y Parch Elwyn Hughes, Efailnewydd gynt, cyn weinidog Eglwys Dewi Sant a David Jones o Bwllheli.
Yn rhan o ddathliadau'r penwythnos cafwyd Noson Lawen a gwledd ar y nos Wener, cyngerdd mawreddog ar y nos Sadwrn a Chymanfa Ganu ar y Sul. Penwythnos bythgofiadwy, a Deian ac Annette yn ganolog wrth gwrs yn y trefnu a'r paratoi. Roedd hi'n bleser ac yn brofiad arbennig i gael hod yn rhan o'r gweithgareddau ac i gael cwmni a chyfeillgarwch aelodau Eglwys Dewi Sant, Toronto am wythnos lawn o ddathlu a mwynhau.
Gwenan Gibbard
|