Bryn Terfel oedd un - a'r llall oedd Hywel Gwyn Jones, un o wyr mwyaf blaenllaw Cymru ym myd cyfrifyddiaeth. Mae'n byw yn awr yn Radyr ar gyrion Caerdydd, ond yma y mae'r gwreiddiau. Ei rieni oedd Mr a Mrs E.T. Jones, cyn-brifathro ysgol Chwilog, a'i briod, Mair. Bu'r ddau foddi mewn storm fawr yn sir Fôn yn 1961 pan orlifwyd y ffordd ac i'w cerbyd fynd ar ei ben i'r afon a oedd yn gyfochog a'r lôn.
Hywel yw'r unig blentyn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Chwilog, Ysgol Ramadeg Pwllheli a Choleg y Brifysgol Aberystwyth Ile graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Bur.Cafodd wedyn gyfnod o hyfforddiant i'w gymhwyso ei hun yn gyfrifydd siartredig gyda chwmni Coopers a Lybrand, a adwaenir bellach fel PriceWaterhouseCoopers. Erbyn hyn mae'r cwmni yn cyflogi dros 400 yng Nghaerdydd ac roedd trosiant y busnes dros £20 miliwn y llynedd.
Cyn ei ymddeoliad yr haf diwethaf yr oedd Hywel Jones sy'n 60 oed yn uwch-bartner gyda chyfrifoldeb am Dde Cymru a Bryste.Pan symudodd ef o Lundain i sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd yn y 1970au, wyth o bobl oedd ar y staff. Bu ganddo of ran flaenllaw yn natblygiad y busnes, yn denu cwsmeriaid adnabyddus megis British Steel, Ford a BT a rhoi sylw arbennig hefyd i ddenu busnes o wledydd tramor.
Daeth Hywel Jones i gysylltiad cyson â gwleidyddion a swyddogion gwahanol gyrff cyhoeddus, ac mae'n aelod o Gydffederasiwn Diwydiannau Prydain, y C.B.I. Oherwydd ei gysylltiad â'r ardal hon y mae amryw o Ogledd Cymru wedi eu hyfforddi gan y cwmni yng Nghaerdydd - Oscar Williams, o deulu siop Beehive, Pwllheli, gynt a Dafydd Evans o Chwilog ac wedyn Doltrement, y Berch, er enghraifft.
Mae Oscar yn awr yn gyfrifydd yn ochrau Aberhonddu a Dafydd yn gyfrifydd yn Nolgellau. Un arall a hyfforddwyd gan PriceWaterhouseCoopers yw Elwyn Roberts, Caerdydd, Cae Canol, Rhoslan, gynt sy'n parhau gyda'r cwmni, yn Llundain yn awr, ac yn arbenigo ym myd archwilio.
Y mae Hywel Jones yn briod ag Ann, sy'n hanu o deulu adnabyddus o gyfreithwyr yn Ne Cymru. Roedd ei thad yn un o ymddiriedolwyr Cronfa Aberfan. Mae ganddynt ddwy ferch, Emma, 30 oed a Catrin, 28.
Dyfamwyd y CBE i Hywel Jones am ei gyfraniad nodedig i fyd busnes yng Nghymru wrth gwrs.