91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Claude a Pascale yn y briodas O'r Garn i Garmona
Ionawr 2009
Roedd y Gymraeg yn un o bedair iaith a ddefnyddiwyd ym mhriodas merch o Eifionydd yn Carmona, nid nepell o Seville yn Sbaen yn ddiweddar.

Y briodferch oedd Pascale Delafouge Jones o Garndolbenmaen gynt a gafodd sylw mawr gan y cyfryngau pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Eifionydd.

Hi, yn dair ar ddeg oed, oedd seren y ffilm 'Elenya' a adroddai hanes geneth ifanc yn dod o hyd i beilot Almaenig mewn coedwig a gofalu amdano ar y slei.

Maes o law graddiodd Pascale mewn Hanes yn Rhydychen ac ymfudodd i Ffrainc yn 2001. Yno y cyfarfu a Claude Hersog, ei gŵr erbyn hyn.

Mae ef yn ddinesydd Ffrengig ond Sbaenwyr yw ei rieni. Bu'n rhaid i'w dad ddianc o Sbaen ar ôl y Rhyfel Cartref yn y tridegau i osgoi Franco a'i griw.

Er iddo gael ei eni yn Ffrainc mae gwreiddiau teuluol Claude yn nhueddau Cordoba yn Sbaen a phenderfynwyd, o'r herwydd, gynnal y briodas yn rhanbarth Andalusia o'r wlad honno.

Daeth yno gynrychiolaeth gref o deulu a ffrindiau Pascale, nifer o'i chyn-gyd-fyfyrwyr, a pherthnasau lawer i'r ddau o Ffrainc a Sbaen, gan gynnwys nain a thaid Pasale, o ochr ei mam, sy'n byw yn Sete.

Y mae Pascale a Claude yn berchen tŷ bwyta yn y dref honno ar lan Môr y Canoldir.

O'r Pasg hyd ddiwedd Medi y mae hwnnw'n agored, ac yna, yn ystod y gaeaf, y mae Pascale yn teithio ledled Ewrop yn gwerthu gwin a gynhyrchir gan ffrind yn Clermont L 'Herault, yn nhalaith Languedog. Treulia Claude y gaeaf yn ei siop lyfrau a phapurau newydd sydd dan ofal ei frawd-yng-nghyfraith.

Yn Sbaeneg y cynhaliwyd y seremoni briodasol gyda darlleniadau yn Ffrangeg a Saesneg - ac yn Gymraeg gan Elen, chwaer Pascale, un o'r morynion.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý