91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Dyfan Dwyfor Dyfan Dwyfor yn Stratford
Hydref 2006
Goddefer am y tro nodyn gan estron o fro'r Wylan i longyfarch gŵr ifanc o ardal Y Ffynnon.
Profiad dymunol eithriadol ar un o'n mynych gyrchoedd ni acw i Stratford, y dref farchnad hyfryd ar lannau Avon yn Swydd Warwick, oedd gweld perfformiad arbennig iawn yno, ar Fedi 13 yn Theatr y Swan, o un o ddramâu cynnar William Shakespeare - The Comedy of Errors.

O fis Ebrill eleni hyd fis Ebrill y flwyddyn nesaf fe berfformir yn eu tro yn Stratford y cyfan o'r dramâu, bron i ddeugain i gyd sydd yn rhan o'r canon Shecsperaidd. Myfyrwyr ifanc o'r Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd a wahoddwyd i berfformio'r Comedy of Errors. A sôn am berfformiad a gaed.

Roedd pethau'n argoeli'n dda o'r cychwyn cyntaf wrth i ddyn sylwi fod rhannau o'r poster oedd yn hysbysebu'r cynhyrchiad yn ddwyieithog. Mewn deugain mlynedd o gyrchu yno doeddem ni erioed o'r blaen wedi gweld y Gymraeg ar boster nac un dim aral1 chwaith yn Stratford. Bonws ychwanegol wedyn, a hynny'n gwbl ddamweiniol, wrth loetran yn y cyntedd cyn mynd i mewn i'r awditoriwm oedd taro ar dad un o'r actorion. Daethai Dei o Siop D.J. yng Nghricieth yr holl ffordd yno i gefnogi ei fab Dyfan Dwyfor a oedd yn chwarae un o'r prif rannau, sef Dromio o Syracuse.

Mae'r ddrama yn gomedi, yn wir yn ffars afieithus ag iddi blot eithaf cymhleth sy'n deillio o'r dryswch sy'n codi wrth i ddwy set o efeilliaid gael eu gwahanu'n ddamweiniol oddi wrth ei gilydd a chyn iddynt, ar ôl llawer o helyntion a throeon trwstan a chryn letchwithdod a chamddealltwriaeth ail gyfarfod drachefn.

Heb fawr o set a'r nesaf peth i ddim props roedd llwyddiant y perfformiad er ennyn diddordeb y gynulleidfa yn dibynnu'n gyfan gwbl ar lefaru clir a dawn actio'r perfformwyr ifanc. A'r fath lwyddiant ydoedd - y symudiadau'n slic a chyflym, yn hyderus ac ymddangosiadol ddiymdrech, yn hynod, hynod, egnïol, gyda'r gŵr ifanc o Gricieth o'i ysgwyddau'n uwch nag odid yr un ohonynt. A'r gymeradwyaeth ar y terfyn yn hir ac yn fyddarol.

Yn ddim ond dwy ar hugain oed, yn gyn ddisgybl o Ysgol Eifionydd a Choleg Meirion Dwyfor bwriodd Dyfan, fel y gwyddys, beth o'i brentisiaeth gynnar yn Ysgol Glanaethwy ac ar Rownd a Rownd. Ond erbyn hyn mae ar ei flwyddyn olaf yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Eisoes cafodd ran mewn ffilm yr edrychir ymlaen yn eiddgar at weld ei ryddhau y flwyddyn nesaf. I goroni'r cwbl mae Asiant yn Llundain wedi ei dderbyn i'w osod ar ei restr. Swm y cyfan a ddywedwyd felly yw fod y rhagolygon, a dweud y lleiaf, yn argoeli'n dda ar ei gyfer a bod y llwybr i ragor o lwyddiannau yn agor yn unionsyth o'i flaen.

Cwestiwn y clywir ei ofyn yn bur aml yw tybed paham y mae ardal fel un Y Ffynnon yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cynhyrchu cynifer o ddramodwyr a sgriptwyr ac actorion dawnus - dramodwyr fel Meic Povey, Wil a Margiad, Bryn Efail, William George, Gwyneth Glyn heb sôn am eu tad hwy oll, y dewin Dybliw S.! Yna'r actorion, Stewart neu Falmai Jones, Grey Evans, Siôn Pritchard i enwi dim ond dyrnaid. Mae rhywbeth yn y pridd mae'n rhaid. Neu yn y dŵr. Neu yn y .....

Ac yn awr wele Dyfan Dwyfor yn disgleirio. Fentra i tybed haeru mai ef yw'r cyntaf ohonynt oll i gario baner GwÅ·r talentog ardal Y Ffynnon ym maes y ddrama i droedio'r byrddau ar lwyfan Meca byd y theatr glasurol.

Llongyfarchiadau gwresog iddo ac i'w rieni Dei a Cheryl y mae hawl ganddynt i ymfalchïo yn ei lwyddiant.

W.O. Borth y Gest


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý