91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dathlu Ennill Mam
gan Margiad Dobson o Garndolbenmaen.
Cwm Maesglasau - dyna i chi le braf. "Lle goblyn mae fanno?" medde chi, "a be sy' mor arbennig am y lle?"

Wel cwm hyfryd ydi o ar gyrion Dinas Mawddwy, a'r rheswm i Angharad Price sgwennu ei llyfr 'O! Ty'n y Gorchudd'. Hanes teulu Ty'n y Braich a geir yn y llyfr, droad y ganrif ddiwethaf, drwy lygaid y ferch Rebecca. Doedd pethau ddim yn hawdd arnynt gan i dri o'r meibion gael eu geni'n ddall.

Roedd Mam a Taid wedi darllen y llyfr, gan fod Mam awydd adrodd rhannau ohono yn 'Steddfod y Faenol. Felly un pnawn Sul (cyn y Sioe Frenhinol) aeth Taid, Nain, Mam, Martha Jên fy chwaer a minnau am dro i Ddinas Mawddwy. Cawsom groeso arbennig gan deulu Ty'n y Braich gan fod Taid yn eu hadnabod.

Cawsom weld y tÅ·, Beibl y teulu a llun o Rebecca.

Cerddasom i bendraw y cwm a gweld y pistyll yn arllwys fel ruban arian, a'r myrddynod llwm yn llawn hanes, fel y gallwn ddychmygu gweld yr hen bobl yn byw yno. Welais i erioed mo Mam mor ddistaw ar y ffordd adref, edrychai yn ôl dros ei hysgwydd ar dop allt Dinas Mawddwy fel petai yn hiraethu am y cwm - od ynte.

Ymhen amser fe ddaeth yn wythnos y Steddfod fawr. Fe aeth Taid a Mam am y 'Steddfod, doedd gen i fawr o awydd a dweud y gwir, gan fy mod i wedi diflasu ar glywed Mam yn ymarfer ei geiriau - dwi'n dal i gofio 'Moelni' hyd heddiw. Ta waeth, fel roedd Alaw fy ffrind, Martha a minnau yn chwarae, fe waeddodd Nain o'r gegin i ddweud fod Mam wedi cael llwyfan, a fod yn rhaid ini fynd ar frys am y Faenol.

Ffwrdd â ni efo Nain, honno wedi cynhyrfu gymaint, fel sylweddolodd ar ôl cyrraedd, fod ei ffedog yn dal amdani. Ew roeddym yn nerfus, a Taid yn smocio rols fel coblyn. Adroddodd Mam a daeth y canlyniad. Roedd Mam wedi ennill Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn. Roedd gwraig Ty'n y Braich ar faes y Steddfod ac wedi clywed y newydd da. Daeth at mam i'w llongyfarch.

Wnawn ni byth anghofio'r diwrnod hwnnw, anghofiwn ni byth o Gwm Maesglasau na Rebecca fach.

Hwre.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý