"Eleni 'roedd Capel y Garn yn
dathlu Canmlwyddiant geni un o'i
phrif gerddorion, sef W. Llewelyn
Edwards (1908-2000) mewn cymanfa
fer.
Fe'i ganwyd ar 18 Tachwedd
1908. Darlledwyd y gymanfa dan
arweiniad Alan Wynne Jones,
ysgrifennydd y Garn, yn y gyfres
Caniadaeth y Cysegr brynhawn Sul
16 Tachwedd i'w hail ddarlledu yn
gynnar - 5.29 - fore Sul 23 Tachwedd.
Dau frawd oedd yn ffermio
Ruel Uchaf, William Llewelyn ac
Alfred, y ddau yn gerddorol ac
yn gaffaeliad mawr i'r capel hwn.
Gydag Alfred oedd y llais. Ef oedd
y codwr canu, a phan oedd yn iau
byddai'n canu unawdau a deuawdau
yn 'steddfodau'r fro.
Mae llawer
yn ei gofi o yn canu yn 'Steddfod
y Tylwythau yn yr ardal hon, a
dod i'w 'nabod yn go dda yn yr
ymarferion at hynny.
Ond William Llewelyn oedd yr
hynaf. Fe oedd yr Organydd, Athro
Sol-ffa plant y capel, arweinydd
yr Ysgol Gân ac wrth gwrs
cyfansoddwr yr emyndonau sydd
gyda ni yn y dathliad hwn, a llawer
o rai eraill.
Mi fyddai'n paratoi'r plant ar gyfer
arholiadau'r coleg Tonic Sol-ffa, ac
mae cenedlaethau o blant y capel
yma wedi ennill tystysgrifau o'r
coleg hynny ac yn cofi o John James
Hughes yn dod lawr ar y bws o
Dal-y-bont i'w harholi nhw.
Ni
fuasai arholwr o Lundain wedi cael
mwy o barch! Dechrau gyda'r rhai
iau, - rhedeg drwy'r "Modulator" fel
chwarae - sain y glust, a phrofi on
eraill heb drafferth, a thra byddai'r
plant bach wrthi, mi fyddai pawb
arall allan o'r ffordd neu yng
nghyntedd y capel yn rebelio ac yn
cael hwyl fawr yn chwarae pêl, achos
'doedd neb i gadw trefn arnyn' nhw
fan 'ny, a fawr ddim ceir ar y ffordd.
Ac fel 'ny drwy'r Junior, Elementary
ac Intermediate. Neb yn ffaelu -
Llwyddo! a phawb wedi meistroli
sgil a fyddai gyda nhw am oes drwy
hyfforddiant drylwyr.
Yna, - dechrau ar ddarllen cerdd
drwy'r H.N. h.y. y Dual Notation fel
y'i gelwid. Roedd bwrdd du a sialc
yn angenrheidiol i hyn. (Ble mae
hwnnw wedi mynd erbyn heddi?)
Roedd yn fodern iawn bryd hynny,
ar olwynion, er hwylustod.
Heddiw...
welwch chi ddim un yn yr ysgolion
Mae hyd yn oed y byrddau gwyn
a'r pensilau marcio wedi mynd.
- Rhyw fyrddau rhyngweithiol
electronig sydd heddiw os am fod
up-to-date!
Bob nos Sul yn y gaeaf byddai
Wm. Llewelyn yn cynnal Ysgol
Gân wedi'r oedfa i baratoi oedolion
ar gyfer y gymanfa. Bryd hynny
byddai Salm ac Anthem swmpus yn
cael ei chanu, a'r gynulleidfa gyfan
yn canu'r rheiny yn y gwasanaeth
ar y Sul. Diwrnod pwysig iawn, i
baratoi erbyn y gymanfa.
Faint ohonoch chi a wyr mai
Elgar oedd hoff gyfansoddwr Wm.
Ll. Edwards? Roedd hyn yn dipyn
o ryfeddod a syndod ... gan fod
Elgar yn gyfansoddwr mor Seisnig.
Wnaeth e' ddim ymhelaethu ar
hyn, ond cofiwn! roedd Elgar yn
organydd yng Nghaerwrangon, yn
gorfeistr i'r Tair Gadeirlan (3 Choirs
Festival) ac yn gyfansoddwr amlwg
yn ei amser.
Byddai Wm. Llewelyn yn cael
gwahoddiad i arwain cymanfaoedd
yma a thraw, ac o hyn fe welwch
fod ei fywyd yn un prysur iawn.
Dyma olynydd teilwng i J. T. Rees, ac
wrth gwrs fe gafodd wersi ganddo.
Cyfansoddi emyn-donau oedd ei
ddileit.
Daeth sawl anrhydedd i'w ran
tra bu byw. Roedd yn gymrawd
o Goleg y Tonic Sol-ffa, Coleg
Cerdd Victoria yn Llundain a
hefyd Cymdeithas Frenhinol y
Celfyddydau.
Urddwyd ef â'r wisg
wen fel Derwydd gan yr Orsedd yn
Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman
a bu'n Olygydd Cerdd Trysorfa'r
Plant ac wedi hynny Cylchgrawn
Antur am fl ynyddoedd lawer.
Mae gyda ni ddau gasgliad o'i
emyn-donau sef Clychau'r Maes a
gyhoeddwyd yn 1976 a Caniadau'r
Meysydd yn 1994.
Cofi af pan yn ymweld ag ef yn
ei ddyddiau olaf, iddo ddweud ei fod
yn falch iawn o fod wedi cael saith
o donau i Caneuon Ffydd! Gobeithio
byddwn ni'n canu mwy ohonynt
o hyn ymlaen. Fe welwch un yn y
Detholiad eleni (2008-9).
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol
ym Mro Dwyfor ym 1975 fe
enillodd y gystadleuaeth ar
gyfansoddi emyn-dôn ar eiriau y
Parchg R. Gwilym Hughes gydag
Arwel Hughes yn beirniadu, a
dyma ddwêd ef ar ei feirniadaeth...
(Cyfansoddiadau t. 173)
"Dyma i chi dôn sy'n rhedeg yn
naturiol fel dãr yr afon, ac mae'r
cyfan yn datblygu i uchafbwynt yn
y diwedd heb ail adrodd un cymal."
Dwy yn unig o 24 oedd yn y
dosbarth cyntaf.
> Galwodd y dôn
yn Bro Dwyfor ac fe'i gwelwch hi
yn Clychau'r Maes. Ithon oedd ei
ffug-enw.
Un sy'n gyfarwydd iawn
a chanu tonau Wm. Llewelyn yw
Mariane Jones-Powell. Diolchwn
iddi am ganu'r dôn fuddugol yn
Gymanfa.
Enillodd drachefn ar gyfansoddi
emyn-dôn yn yr Eisteddfod
Genedlaethol yn Abertawe ym
1982, gydag Arwel Hughes eto yn
beirniadu. Yn anffodus nid oes copi
gen i o'r dôn hon, ond credaf fod y
feirniadaeth yn rhoi crynodeb go
lew o'i allu fel cyfansoddwr.
Mae'n
ei ddisgrifio fel "crefftwr gofalus"
Cyfansoddiadau t.169.
Bu deugain
yn cystadlu y tro yma, a dim ond
dau eto yn y dosbarth cyntaf!
Mae ganddo dôn o'r enw Bro'r
Ithon hefyd i'w gweld yn Adran
yr Ifanc o'r un llyfr. Clywsom
Rhun a Gwern Penri, y ddau frawd
o Daigwynion yn canu addasiad
deulais o hon."