Yn yr ardal hon mae'n debyg mai fel gwr Ysgol
Sul y cofir Dr T. Ifor Rees, Bronceiro orau.
Roedd
yn ffyddlon iawn i Gapel y Garn a'r pethe.
Roedd hefyd yn driw iawn i'r iaith Gymraeg, a
llwyddodd i gyfieithu nifer o glasuron Ffrainc,
Sbaen a'r Eidal i'r Gymraeg i roi blas o gyfoeth
llenyddol Ewrop i'r gynulleidfa o Gymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf cefais y pleser o
gael ymchwilio i fywyd a gwaith T. Ifor Rees,
a darganfyddais fod y ddelwedd ohono fel
trysorydd parchus i'r Capel ymhell o fod yn
ddarlun cyflawn.
Cyn ymddeol yn 1949, diplomydd i'r Swyddfa
Dramor ydoedd - a threuliodd dros bymtheg
mlynedd ar hugain dramor yn edrych ar
ôl buddiannau Prydain mewn gwahanol
gymunedau yn Ewrop ac yn America Ladin.
Roedd gwledydd De America yn ansefydlog
iawn yn y cyfnod y bu'n byw ynddynt, ac roedd
chwyldroadau a gwrthyfeloedd yn ddigwyddiadau
cyson iawn.
Yn 1946, roedd Ifor Rees a'i ferch, Morfudd,
yn byw yn La Paz, prifddinas Bolivia.
Roedd
aflonyddwch mawr yn y wlad bryd hynny, ac
aelodau o'r gymdeithas yn ceisio dymchwel y
llywodraeth.
Un dydd yn ystod cynnwrf ar y
strydoedd, daeth bwled gwn drwy ffenestr cartref
y Reesiaid.
Roedd hi'n anrhefn llwyr yn La Paz,
a chyfraith a threfn yn cael ei anwybyddu yn
llwyr.
Yn ystod yr helynt, daeth un o farwniaid
mwyaf y diwydiant tun ym Molivia, Carlos
Victor Aramayo, i geisio lloches yng nghartref
Ifor Rees.
Roedd y llywodraeth am ei waed, er
nad oedd yn euog or un drosedd.
Yn ôl ei natur
gymwynasgar, derbyniodd Ifor Rees y ffoadur
i'w gartref, er gwaethaf y perygl iddo ef ei hun.
Yna, bu'n rhaid dyfeisio cynllun i gynorthwyo
Aramayo i adael y wlad.
Gyrrodd Ifor Rees ef â'i
deulu i'r Maes Awyr, ond cawsant sioc o weld fod
nifer o gynrychiolwyr y llywodraeth yno'n barod.
Felly cuddiodd pawb yn y car, cyn darganfod mai
wedi dod i groesawu Canghellor Peru oddi ar yr
awyren yr oedd cynrychiolwyr y llywodraeth!
Rhyddhad mawr i Ifor Rees oedd cael danfon
Araymaro â'i deulu o'r diwedd ar yr awyren, lle y
bu iddynt ffoi i Chile o grafangau eu herlidwyr.
Ysgrifennodd Ifor Rees ddwy gyfrol hardd
o hanesion ei deithiau o amgylch cyfandir
De America, sef Illimani a Sajama.
Maent yn
llawn lluniau, sy'n gofnod anhygoel o dirwedd
a chymdeithas yr Indiaid yng nghychwyn yr
ugeinfed ganrif.
Yn y llyfrau, ceir hanesion
anghredadwy o anturiaethau Ifor Rees i gopaon
llosgfynyddoedd, a mynyddoedd serth eiraog.
Bu
mewn sawl storm enbyd ar y môr, a bu ar daith
mewn cwch bregus ar afon â'i llond hi o siarcod!
Cafod gwymp oddi-ar ei geffyl, a bu o fewn trwch
blewyn i fynd dros ymyl clogwyn mewn hen lori.
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am ei hanes difyr,
ond o ystyried dawn dweud Ifor Rees - gwell
fyddai i chi ddarllen y cyfrolau eich hunain!
Hoffwn ddiolch i Mrs Morfudd Rhys Clark
am ei chymorth gyda'm ymchwil.
Bu hithau
hefyd ar sawl antur cyffrous gyda'i thad - yn
ymweld â Macchu Picchu ac yn hedfan mewn
awyren fechan yn isel dros gopaon yr Andes!